Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef wedi'u gosod gerbron y Senedd. 

Mae'r Bil yn ceisio gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Ym mis Chwefror, cyhoeddais y penderfyniad i symud ymlaen gyda gwaharddiad ar rasio milgwn. Mae'r Bil hwn yn rhoi effaith i'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r Bil yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid ac yn deillio o ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth a barn rhanddeiliaid, gan gynnwys ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2023/24.

Byddaf yn cyflwyno datganiad llafar i'r Senedd yfory. Mae'r Bil a'r dogfennau ategol ar gael ar wefan y Senedd.