Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) wedi cael ei gyflwyno gerbron Senedd Cymru heddiw.

Mae'r Bil wedi bod yn destun ymgynghori a thrafodaethau helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'n sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, yn creu dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, yn hyrwyddo gwaith teg ac yn creu dyletswydd ar gyfer caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Bwriad y Bil yw ategu deddfwriaeth arall, yn benodol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  Nod y bil yw gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gynnal eu gweithrediadau.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio lle mae gwerthoedd a rennir a diben cyffredin yn cael eu ceisio.  Mae partneriaeth gymdeithasol yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol y gallai llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr (yn bennaf drwy eu hundebau llafur) gyflawni mwy os ydynt yn gweithio gyda'i gilydd mewn ysbryd o gydweithredu a chydweithio.

Bydd aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr wedi'u henwebu gan TUC Cymru.  Bydd yr CPG yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer Gweinidogion Cymru ar yr amrediad llawn o faterion mae rhannau eraill o'r Bil yn ymdrin â nhw. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu is-grŵp i'r CPG ar gaffael cyhoeddus a fydd yn darparu arbenigedd ychwanegol, ac yn cefnogi'r CPG yn y gwaith o fonitro'r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol.

Bydd y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol yn berthnasol i gyrff cyhoeddus penodol ac i Weinidogion Cymru. Bydd y ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol iddynt geisio cyfaddawd neu gonsensws gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill eu staff pan fyddant yn pennu amcanion llesiant ac yn gwneud penderfyniadau o natur strategol, er mwyn cyflawni'r amcanion hynny o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Rhoddir dyletswydd ar wahân ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol pan fyddant yn cymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant.

Mae'r Bil yn diwygio adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' o fewn y nod presennol 'Cymru ffyniannus – un o'r nodau mae’n ofynnol i gyrff gyhoeddus a Gweinidogion Cymru ei geisio pan fyddant yn cynnal datblygu cynaliadwy o dan y Ddeddf hon. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r holl gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf hon, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, ystyried gwaith teg wrth geisio cyflawni'r nod llesiant 'Cymru ffyniannus'.  Bydd yn galluogi ceisio gwaith teg drwy'r broses o bennu a chyhoeddi amcanion llesiant ac adrodd ar gynnydd yn eu herbyn.

Bydd dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol yn berthnasol i gyrff cyhoeddus penodol y bydd yn ofynnol iddynt wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol pan fyddant yn cynnal gweithgareddau caffael, pennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant a chyhoeddi strategaeth gaffael. Disgwylir i gyrff cyhoeddus hefyd gynnal dyletswyddau rheoli contract i wneud yn siŵr bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu ceisio drwy cadwyni cyflenwi cyfan.

Bydd y dyletswyddau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn cynnwys yr holl gylch caffael h.y. cynllunio, caffael, rheoli contractau, adolygu a chydymffurfio. Bydd gan gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru ddyletswyddau adrodd mewn perthynas â'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a'r ddyletswydd caffael.

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn ar ddydd Mawrth 7 Mehefin. Mae copi o'r Bil a'r dogfennau ategol i'w gweld yma. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu. Yn ogystal, rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach â Phlaid Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ac at weithio gydag aelodau o'r Senedd ac at drafodaethau parhaus â rhanddeiliaid wrth i Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) fynd drwy broses graffu’r Senedd dros y misoedd nesaf.