Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, gosodwyd Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a Memorandwm Esboniadol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd y Bil mewn ymateb i adolygiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o ddosbarthiadau ystadegol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016. Fe wnaeth yr ONS nodi dangosyddion o reolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol gan arwain iddynt ddod i'r casgliad y dylid ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i'r is-sector Corfforaethau Anariannol Cyhoeddus at ddibenion cyfrifon gwladol ac ystadegau economaidd eraill yr ONS. Mae'r rheolaethau hyn i'w gweld yn bennaf yn Neddf Tai 1996.

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ariannu swm sylweddol o'u gwaith adeiladu drwy fenthyca gan y sector preifat. Maent wedi ymrwymo i adeiladu o leiaf 12,500 o'r 20,000 o dai fforddiadwy newydd sy'n darged gan Lywodraeth Cymru, ond bydd eu gallu i wneud hyn yn dibynnu ar eu gallu i elwa ar fenthyciadau gan y sector preifat i ategu cyllid grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyllid eraill.

Os bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i gael eu dosbarthu yn Gorfforaethau Anariannol Cyhoeddus, bydd eu benthyciadau (tua £200 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar hyn o bryd) yn cyfrif fel tâl yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru ac yn arwain at gynnydd yn swm Benthyciadau Net y Sector Cyhoeddus. Byddai ceisiadau am gyllid ar gyfer tai yn cystadlu yn erbyn blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Heb os, byddai hyn yn golygu nifer sylweddol yn llai o dai fforddiadwy newydd.

Mae'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cael ei gyflwyno er mwyn dileu neu ddiwygio'r darpariaethau a nododd yr ONS fel y rhai sy'n dangos rheolaethau'r llywodraeth. Bydd hyn yn galluogi'r ONS i ystyried ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru i'r sector Corfforaethau Anariannol Preifat, a thrwy hynny liniaru'r effeithiau a'r pryderon cyllidebol.

Oni bai ein bod yn cymryd camau a fyddai'n galluogi'r ONS i wrthdroi'r ailddosbarthiad er mwyn i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael eu dosbarthu fel sefydliadau'r sector preifat unwaith eto, bydd ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru dan fygythiad. Mae'r diwygiadau a gynigir yn y Bil yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod cyflenwad parhaus o dai fforddiadwy o safon yng Nghymru.

Mae'r cynigion polisi a fersiwn ddrafft o'r Bil wedi bod yn destun trafodaeth gyda'r ONS. Mae'r ONS yn fodlon, os bydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn cael y Cydsyniad Brenhinol, na fyddai’r dylanwad yn ei gyfanrwydd yn gyfystyr â rheolaeth y sector cyhoeddus, ac y byddai'n fodlon adolygu'r dosbarthiad unwaith yn rhagor.