Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, gosodwyd Bil Seilwaith (Cymru) (“y Bil”) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron Senedd Cymru (“y Senedd”).

Mae’r Bil yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith arwyddocaol yn amserol yng Nghymru ac yn gam pwysig tuag at gefnogi ymrwymiadau’r Llywodraeth i gyflawni’r targedau ynni adnewyddadwy wrth inni symud at allyriadau ‘sero net’ erbyn 2050.

Er mwyn sicrhau y gall Cymru ddenu'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom yn y sector ynni adnewyddadwy a phrosiectau seilwaith arwyddocaol eraill, mae'r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd i Gymru, a fydd yn berthnasol ar y tir ac yn y môr tiriogaethol. Bydd y Bil yn berthnasol i brosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am roi cydsyniad iddynt a fydd yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir ac ar y môr, rhai llinellau trydan uwchben sy'n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu, gwaith i briffyrdd a rheilffyrdd, a gweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Er i Ddeddf Cymru 2017 ddatganoli rhagor o gyfrifoldeb deddfwriaethol a gweithredol am gydsynio i brosiectau cynhyrchu ynni, llinellau trydan uwchben, a phorthladdoedd a harbyrau, mae Cymru wedi bod o dan anfantais gan Lywodraeth y DU am nad yw ein prosesau cydsynio bellach yn addas i’r diben.  

Nid yn unig y mae hyn wedi achosi nifer o broblemau i ddatblygwyr ac eraill sy'n ymwneud â chydsynio'r prosiectau hyn, fel ein cymunedau lleol, mae hefyd yn atal buddsoddiad a thwf yng Nghymru.

Bydd y broses gydsynio unedig newydd a sefydlwyd yn y Bil yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r problemau hyn drwy ddarparu 'siop un stop', lle gellir cael rhai caniatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill a roddir ar hyn o bryd o dan gyfundrefnau cydsynio gwahanol, ar ffurf un pecyn.

Mae'r Bil yn sicrhau proses dryloyw a chyson sy'n galluogi cymunedau lleol i ddeall yn well y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a chwarae rhan ynddynt, gan hefyd roi sicrwydd wrth wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar bolisi clir.

Bydd hefyd yn gallu bodloni heriau'r dyfodol drwy fod yn ddigon hyblyg i gynnwys technolegau sy'n datblygu ac unrhyw bwerau pellach a allai gael eu datganoli.

Yn benodol, mae’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer materion megis:

  • y trothwyon pan fo datblygiad yn cael ei ystyried yn brosiect seilwaith arwyddocaol;
  • sicrhau cyhoeddusrwydd a thrafodaethau gyda chymunedau lleol ac awdurdodau cynllunio lleol;
  • y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ynghylch ceisiadau (gan gynnwys awdurdodi caffael tir yn orfodol);
  • achosion o dorri amodau cydsyniad seilwaith a sut gellir gorfodi yn eu erbyn; a
  • sut a phryd bydd y ffioedd yn cael eu codi.

Bydd fy natganiad llafar ar y Bil i'r Senedd ddydd Mawrth 13 Mehefin yn rhoi mwy o fanylion am nodau, amcanion a chynnwys y Bil, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau a rhanddeiliaid ar waith craffu'r Bil yn ystod y misoedd nesaf.