Neidio i'r prif gynnwys

Elin Jones AS, y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Bil Trethiant (Cymru) wedi’i osod gerbron y Senedd.

Mae’r Bil yn cynrychioli’r cam nesaf o ran cynnal a gwella system dreth ddatganoledig Cymru. Mae’n tynnu ar bron i ddegawd o brofiad gweithredol ers sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), ac i’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi fod yn daladwy gan ein trethdalwyr. Bydd y Bil yn egluro deddfwriaeth trethi datganoledig Cymru, ei chryfhau a’i diogelu ar gyfer y dyfodol, gan gefnogi’r gwaith o gasglu refeniw treth sy’n ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.  

Mae’r Bil yn cyflwyno pecyn o newidiadau technegol a gweinyddol wedi’u targedu i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Nid yw’n cyflwyno unrhyw drethi newydd, nac yn newid amcanion polisi sylfaenol system drethi datganoledig Cymru. Mae’r newidiadau arfaethedig yn adlewyrchu amgylchiadau newidiol, a byddant yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth trethi datganoledig yn parhau i weithredu’n effeithiol, yn effeithlon ac yn deg. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal system dreth fodern ac ymatebol.

Bydd y Bil yn gwella’r trefniadau llywodraethu a gweinyddu o ran trethi a gesglir gan ACC, yn egluro ac yn gwella cydymffurfiaeth a darpariaethau gorfodi, ac yn rhoi mwy o sicrwydd i drethdalwyr a’u cynghorwyr. Mae hefyd yn mynd i’r afael â materion ymarferol a nodwyd drwy weithredu’r Dreth Trafodion Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, gan sicrhau eu bod yn gweithredu’n briodol.   

Bydd y Bil hefyd yn hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth a reolir yn ofalus ag awdurdodau lleol er mwyn cefnogi’r gwaith o weinyddu’r dreth gyngor, ardrethi annomestig a’r ardoll ymwelwyr, tra’n cynnal mesurau diogelu cadarn i amddiffyn cyfrinachedd trethdalwyr a data personol.

Mae’r newidiadau arfaethedig wedi cael eu llywio gan ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’r adborth a gasglwyd yn dangos bod cefnogaeth eang i fesurau sy’n gwella effeithiolrwydd wrth weinyddu trethi ac sy’n cynnal trefniadau diogelu priodol ac amddiffyniadau i drethdalwyr.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol cysylltiedig yn dangos bod disgwyl i’r Bil ddarparu manteision gweinyddol a gweithredol i drethdalwyr, i awdurdodau lleol ac i Awdurdod Cyllid Cymru.

Edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelodau’r Senedd wrth i’r Bil fynd drwy’r broses graffu.