Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi i mi gyflwyno Bil yr Amgylchedd (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Gan adeiladu ar ein gwaith blaengar ar Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Bil yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar reoli adnoddau Cymru, sy'n hanfodol ar gyfer ein gallu i ddatblygu'n gynaliadwy.  Er mwyn i Gymru fod yn llewyrchus, rhaid i ni warchod cadernid ein hadnoddau naturiol a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan sicrhau llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio a rheoli'n hadnoddau naturiol mewn ffordd effeithiol.  O'i phasio, bydd y ddeddfwriaeth hon yn gosod y ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n angenrheidiol i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd gynaliadwy yn unol â'r fframwaith yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn ategu'r diwygiad deddfwriaethol ehangach rwy'n ei gyflwyno drwy Fil Cynllunio (Cymru).

Ystyriwyd ymgynghoriadau Papur Gwyrdd a Phapur Gwyn - yn 2012 a 2014 - wrth lunio'r Bil, gan sicrhau'r newidiadau angenrheidiol i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd gyson a rhagweithiol.

Mae'r darpariaethau wedi'u llunio mewn ffordd sydd nid yn unig yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau strategol sy'n ein hwynebu - megis newid yn yr hinsawdd neu'r dirywiad parhaus mewn bioamrywiaeth - ond hefyd yn canolbwyntio ar gyfleoedd parhaus a all godi i'n cymunedau a'n heconomi drwy reoli ein hadnoddau mewn ffordd gynaliadwy.

Mae'r Bil yn cyflawni ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol newydd, ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau eraill cysylltiedig mewn perthynas â newid i economi carbon isel, gweithredu deddfwriaeth Ewropeaidd yn effeithiol, a mesurau ehangach i leihau gwastraff ac adeiladu ar lwyddiant Cymru ym maes ailgylchu ar hyn o bryd.

Mae'r Bil yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi sylw i wendidau sylfaenol yn y fframwaith statudol bresennol;
  • Gosod deddfwriaeth fodern yn ei lle i reoli adnoddau naturiol Cymru ar sail arfer da cydnabyddedig yn rhyngwladol sydd, yn ogystal â helpu i roi sylw i'r heriau sydd o'n blaen, yn canolbwyntio llawn cymaint ar nodi cyfleoedd i ddatblygu'n gynaliadwy;
  • Gosod fframwaith deddfwriaethol cryfach i fynd i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd, gyda tharged o 80% o leiaf o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050.  Mae Cymru, ynghyd â'r DU yn rhan o grŵp o wledydd blaengar sy'n cymryd camau deddfwriaethol i herio'r newid yn yr hinsawdd.  
  • Rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau mwy o hyblygrwydd i addasu i unrhyw dueddiadau sy'n codi o ran ymddygiad defnyddwyr neu unrhyw effeithiau anfwriadol yn deillio o'r tâl am fagiau siopa untro.
  • Gwella prosesau rheoli gwastraff Cymru ymhellach drwy wneud darpariaeth ar gyfer ailgylchu gwastraff, a gwella'n ffordd o drin gwastraff bwyd ac adfer ynni;
  • Galluogi dileu cymhlethdod diangen, a symleiddio prosesau a chynlluniau mewn perthynas â meysydd eraill wedi'u rheoleiddio gan gynnwys pysgodfeydd pysgod cregyn, draenio tir a rheoli perygl llifogydd. Mae hefyd yn galluogi awdurdod trwyddedu morol Cymru i godi ffioedd mewn perthynas â gweinyddu'r system trwyddedu morol.

Mae effaith gyfunol darpariaethau'r Bil yn caniatáu manteision sylweddol i Gymru, yn economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ac yn adeiladu ar ddull gweithredu Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd eisoes wedi cael cydnabyddiaeth am fod yn flaengar gan y Cenhedloedd Unedig.

Gan weithio gyda Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Bil Cynllunio (Cymru), bydd Bil yr Amgylchedd yn gosod deddfwriaeth angenrheidiol yn ei lle i sicrhau llesiant Cymru yn y tymor hir, a sicrhau bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn manteisio ar economi lewyrchus, iach a chadarn, a chymunedau bywiog a chydlynus.