Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gosodwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Mae'r Bil yn datgymhwyso adrannau penodol o Trade Union Act 2016 y DU a fydd, pan ddônt i rym, yn llesteirio trefniadau sydd wedi hen ennill eu plwyf o ran gweithio ar sail partneriaethau cymdeithasol wrth ymdrin â materion yn ymwneud â gweithlu'r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hynny'n effeithio hefyd ar y modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r Bil yn gwrthdroi darpariaethau yn y Trade Union Act sy'n pennu trothwyon pleidleisio penodol fel na fyddant bellach yn gymwys i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd hynny'n fodd i sicrhau bod y berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau llafur yn y gweithle yn parhau'n un deg a chytbwys.  

Bydd yn sicrhau parhad yr arfer gyffredin lle mae cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus ac undebau llafur cydnabyddedig yn cyd-drafod ac yn cytuno ar amser cyfleuster, a bydd yn dileu pwerau cysylltiedig sy'n ymwneud â gofynion i adrodd ar amser cyfleuster. Wrth gadw trefniadau gweithio mewn partneriaeth, mae'r Bil hefyd, mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn gwrthdroi amodau sy'n gysylltiedig â didynnu tanysgrifiadau i undebau llafur o'r gyflogres.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod y cynigion yn y Bil yn rheolaidd gyda'i phartneriaid cymdeithasol drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Cynulliad  Cenedlaethol wrth iddo ystyried Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn ystod y misoedd sydd i ddod.