Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cydgrynhoi, moderneiddio a symleiddio deddfwriaeth cynllunio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gyfraith sy’n sylfaen i’r system gynllunio yn diwallu anghenion penodol Cymru,  er mwyn galluogi’r holl randdeiliaid sy’n gweithredu ac yn defnyddio’r system i ddefnyddio a deall y gyfraith sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol.  

Comisiynwyd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr gan Lywodraeth Cymru i gwblhau adolygiad manwl o’r maes sylweddol a chymhleth hwn o’r gyfraith, gyda’r nod o symleiddio a chydgrynhoi’r ddeddfwriaeth. Er mwyn llywio’r adolygiad, fe aeth Comisiwn y Gyfraith ati i gynnal dau ymarferiad ymgynghori cyhoeddus. Gofynnwyd am safbwyntiau ar ei bapur cwmpasu (Mehefin 2016), a oedd yn cyflwyno ei safbwyntiau amodol, ac ar ei bapur ymgynghori sylweddol (Tachwedd 2017), a oedd yn cynnwys ei gynigion manwl. 

Heddiw, rwyf wedi derbyn adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith, sy’n cyflwyno argymhellion cynhwysfawr i mi eu hystyried. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl o’r materion ac ymgynghori eang. Heddiw mae’n dda gennyf gyflwyno i’r Cynulliad gopi o’r adroddiad ‘Cyfraith Cynllunio yng Nghymru: Adroddiad Terfynol’, sydd wedi’i gyhoeddi gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei wefan hefyd: 

https://www.lawcom.gov.uk/project/cyfraith-cynllunio-yng-nghymru/

Hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am gwblhau’r adolygiad sylweddol hwn, a fydd yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig i ni gychwyn y broses o symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth cynllunio.

Bydd pob argymhelliad yn cael ei ystyried yn fanwl er mwyn paratoi ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad terfynol. Yn unol â’r protocol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Gyfraith ar 2 Gorffennaf 2015, darperir ymateb interim gan y Llywodraeth o fewn 6 mis i gyflwyno a chyhoeddi’r adroddiad, a darperir ymateb manwl o fewn 12 mis. Wrth baratoi’r ymateb hwn, byddaf yn gweithio’n agos gyda’m cydweithwyr Gweinidogol sydd â chyfrifoldebau neu ddiddordebau polisi sy’n gysylltiedig â rhai o’r newidiadau a argymhellir.