Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei Ddatganiad Ysgrifenedig i’r Cabinet dyddiedig 25 Medi 2020 y bwriad i ddod â’r darpariaethau sydd wedi eu cynnwys ym Mhennod 1 Rhan 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 i rym ar 1 Mawrth 2021.

O heddiw ymlaen, bydd yn ofynnol i holl diroedd ysbytai, tiroedd ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal plant awyr agored yng Nghymru fod yn ddi-fwg. Mewn rhai amgylchiadau, bydd modd i’r rhai hynny sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill yn ogystal â’r rhai hynny sy’n derbyn nwyddau neu wasanaethau o annedd wneud hynny o fewn amgylchedd di-fwg. Bydd ysmygu yn y lleoliadau hyn yn drosedd.

Bydd y ddeddfwriaeth yn diddymu Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 ac mae rhywfaint o newid wedi bod i’r lleoliadau hynny nad oedd angen iddynt fod yn ddi-fwg yn flaenorol. Yn ystod y flwyddyn nesaf, ac erbyn 1 Mawrth 2022, bydd ysmygu mewn ystafelloedd a thai llety ac ati yn cael ei ddileu yn raddol, a bydd yn ofynnol i lety gwyliau hunangynhwysol (bythynnod, carafanau ac ati) fod yn ddi-fwg. Bydd yn ofynnol i Unedau Iechyd Meddwl gael gwared yn raddol ag unrhyw ystafelloedd ysmygu erbyn 1 Medi 2022. Yn ogystal, mae pwy all ddefnyddio ystafelloedd ysmygu dynodedig mewn cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion wedi newid.

Mae ysmygu yn hynod o niweidiol ac andwyol i iechyd ac rwyf i wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau effeithiau ysmygu ar iechyd yng Nghymru. Bydd ymestyn y gofynion di-fwg i fwy o leoedd yn gwarchod y cyhoedd ymhellach rhag mwg ail law niweidiol. Bydd hefyd o gymorth i leihau’r sbardun a allai beri i gyn-ysmygwyr ailddechrau ysmygu. Bydd gwahardd ysmygu mewn ardaloedd lle bydd plant a phobl ifanc yn treulio’u hamser, er enghraifft meysydd chwarae cyhoeddus, tiroedd ysgolion a lleoliadau gofal plant yn fodd o ddadnormaleiddio yr arfer o ysmygu ac yn lleihau’r tebygolrwydd o blant a phobl ifanc yn rhoi cynnig ar ddechrau ysmygu yn y lle cyntaf.

Dim ond drwy ymdrechion ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid y mae gweithrediad y ddeddfwriaeth hon wedi bod yn bosibl. Rwyf yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith am eu cyfraniad. Ynghyd â chefnogi ein rhanddeiliaid gyda dogfennau hyfforddiant a chanllawiau, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ddeddfwriaeth newydd drwy ymgyrch gyfathrebu.

Os hoffai Aelodau neu randdeiliaid gael gwybodaeth bellach ar y ddeddfwriaeth neu ar ei gweithrediad, cysylltwch â PolisiTybaco@llyw.cymru. Mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.