Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn fy Natganiad ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru ar 27 Mawrth 2012, hysbysais yr aelodau y byddai dau ddarn o ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno ar gyfer hydref 2012. Pwrpas y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch yr amserlen i gyflawni'r darnau hynny o ddeddfwriaeth.
Mae'r cyntaf yn ymwneud â chynlluniau i gyflwyno trefn orfodol i olrhain llongau (neu gychod) pysgota sy'n gweithredu yn y bysgodfa Cregyn Bylchog.  Cyflwynir y Gorchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) yng Nghymru er mwyn rheoli gweithrediadau llusgrwydo cregyn bylchog. Bydd rheidrwydd ar gychod pysgota cofrestredig ym Mhrydain sy'n gweithredu ym mhysgodfa cregyn bylchog Cymru i drosglwyddo gwybodaeth benodol am leoliad y llong. Oherwydd natur dechnegol y rheoliad, bydd yr Offeryn Statudol yn cael ei drosglwyddo cyn hir i'r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn cydymffurfio â chyfnod segur deuddeg wythnos y Gyfarwyddeb Safonau Technegol, a bydd hefyd ar gael i'w adolygu ar wefan Llywodraeth Cymru.  Wedi cwblhau'r gofyniad hwn bydd yr OS yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad gyda'r bwriad iddo ddod i rym cyn y bysgodfa cregyn bylchog nesaf.
Mae'r ail eitem o ddeddfwriaeth yn ymwneud â mater a elwir yng Nghymru yn ‘hawliau Tad-cu’.  Cyflwynodd y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr gyfyngiadau ar faint cychod pysgota drwy is-ddeddfau.  Wrth eu cyflwyno, cyflwynwyd eithriadau hefyd ar gyfer nifer fach o gychod, er mwyn rhoi cyfle i bysgotwyr addasu eu gweithrediadau pysgota os oeddent wedi prynu cychod mwy na'r maint mwyaf a ganiateir. Mae tipyn o amser wedi pasio ers gwneud yr is-ddeddfau, ac ystyrir bellach i'r pysgotwyr a effeithiwyd gael digon o amser i wneud yr addasiadau angenrheidiol.  Mae Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Maint Cwch Mwyaf) (Cymru) 2012 yn ceisio atgynhyrchu'r cyfyngiadau maint cwch mwyaf yn nyfroedd Cymru ac yn diddymu'r hawliau tad-cu.  Bwriedir cyflwyno'r Gorchymyn yn yr hydref a bydd y gwaith o ddiddymu'r eithriadau wedi'i gwblhau erbyn mis Ebrill 2013.  Eto, oherwydd natur dechnegol y rheoliad bydd yr Offeryn Statudol yn cael ei drosglwyddo cyn hir i'r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn cydymffurfio â chyfnod segur deuddeg wythnos y Gyfarwyddeb Safonau Technegol, a bydd hefyd ar gael i'w adolygu ar wefan Llywodraeth Cymru. Wedi cwblhau'r gofyniad hwn bydd yr OS yn cael ei gyflwyno yn y Cynulliad.
Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyflawni fy uchelgais i sefydlu pysgodfeydd cynaliadwy a phroffidiol yn nyfroedd glannau Gymru.  Rwy'n disgwyl cyhoeddi argymhellion pellach ynghylch rheoli pysgodfeydd yn yr hydref.