Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae safonau yn codi yn ein hysgolion. Ein diwygiadau a'n ffocws diflino ar sicrhau trylwyredd a her ar draws y system fel bod ein pobl ifanc yn mwynhau addysg o'r radd flaenaf sy'n ysgogi'r gwelliannau hyn. 

Cyn toriad yr haf, byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am fy ymateb llawn i'r Adolygiad o'r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu yng Nghymru a gynhaliwyd gan yr Athro Graham Donaldson. Yn ei adolygiad, mae'r Athro Donaldson yn tynnu sylw at ba mor ganolog yw cymhwysedd digidol i lwyddiant person ifanc mewn bywyd. Byddai ei argymhelliad i wneud cymhwysedd digidol yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd yn golygu newid sylweddol i ddysgwyr ac ymarferwyr. Pe byddai'r argymhelliad hwnnw yn cael ei fabwysiadu, byddai'n gweddnewid hanfodion addysgu da wrth i sgiliau digidol ddod yn rhan fwyfwy annatod o ddysgu.

Bu'r Athro Donaldson yn gweithio'n agos gydag aelodau'r Panel TGCh Annibynnol gydol yr adolygiad i sicrhau bod ei argymhellion yn cyd-fynd â gwaith y Panel, ac er mwyn awgrymu'r dull gorau posibl ar gyfer addysg yng Nghymru. Yn ei adolygiad, mae'n cyflwyno dadl gymhellol o blaid newid ein hagwedd tuag at gymhwysedd digidol, a mabwysiadu dull sy'n debyg i'r ffordd y datblygwyd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Ar ôl ystyried yr adroddiad hwn ochr yn ochr â chanfyddiadau'r Panel Adolygu TGCh annibynnol yn 2013 a chanfyddiadau cynnar y Sgwrs Fawr ar Addysg yng Nghymru, rwyf wedi penderfynu bod y mater o gyflwyno dull effeithiol a chyson o addysgu cymhwysedd digidol mor hanfodol bwysig, ar gyfer ein pobl ifanc a'n heconomi, fel na allwn ni oedi mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod i'n mynd i ofyn i fy swyddogion weithio gydag ysgolion arweiniol, y consortia rhanbarthol ac arbenigwyr o addysg uwch a diwydiant i ddatblygu Fframwaith Cymhwysedd Digidol a fydd ar gael i ysgolion erbyn mis Medi 2016.

Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion sydd eisoes ar flaen y gad o ran sicrhau bod cymhwysedd digidol yn rhan annatod o'u haddysgu a'u dysgu yn gallu rhannu eu harferion gorau ac yn galluogi eraill i ddysgu ganddynt hefyd. 

Rwy'n gwybod bod rhai ysgolion eisoes wedi deall yr agenda hon ac yn arwain y ffordd yng Nghymru. Er mwyn gallu elwa ar waith yr arweinwyr hyn, rwy'n gofyn i'n consortia rhanbarthol gynnull ynghyd grŵp bach o ymarferwyr a’u hysgolion sydd eisoes yn datblygu'r agenda hon yng Nghymru i gynllunio a datblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Byddant yn gallu rhannu eu profiadau eu hunain ond byddant hefyd yn ystyried yr arferion gorau yn rhyngwladol. Bydd y penderfyniad terfynol i ddyfarnu statws Arloesi yn cael ei wneud gan banel o arbenigwyr cenedlaethol.

Gyda'n gilydd, mae gennym wir gyfle i weithio mewn partneriaeth â'n hysgolion i ddatblygu dull a fydd yn gallu cystadlu yn fyd-eang o fynd ati i sicrhau cynhwysiant digidol yng Nghymru, a bydd hynny yn ategu ein lle ar y llwyfan ddigidol ryngwladol. Rwy'n mynd i ofyn felly i Arloeswyr Digidol a'u hysgolion gydweithio â busnesau ac arweinwyr addysgol gan gynnwys cynrychiolwyr o'n Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol a chyflogwyr digidol arweiniol fel Microsoft a'n Panel Sector TGCh. Byddaf hefyd yn disgwyl i ddarparwyr addysg uwch - yn y DU ac yn rhyngwladol - ymgymryd ag ymarferion sicrhau ansawdd trylwyr mewn perthynas â'r fframwaith newydd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion Cymru yn arwain yn y maes hwn a'u bod yn elwa ar arbenigedd o bob cwr o’r byd i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi hefyd ein bod yn cydweithio'n agos â'r British Council i ddatblygu profiadau dysgu proffesiynol a chyfleoedd rhyngwladol newydd i gefnogi athrawon yng Nghymru. O'r flwyddyn academaidd nesaf, bydd rhaglenni â ffocws ar ymarferwyr ar gael i amryw o ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu cymhwysedd digidol yn ogystal â sgiliau ehangach ar draws y cwricwlwm.

Fel Gweinidog, rwyf eisoes wedi bod yn glir wrth gyhoeddi’r ‘Fargen Newydd’ fy mod i am gefnogi ein gweithwyr addysg proffesiynol drwy’r cyfnod o newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i’r cwricwlwm yn ehangach dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd hwn yn gyffrous ond bydd angen inni feddwl yn ofalus iawn sut gallwn ni gefnogi gweithwyr proffesiynol yn ein hysgolion i’w gyflwyno’n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yn galw am feddwl yn ofalus am y math o ddatblygiad proffesiynol o safon a fydd ei angen mewn ysgolion a byddaf i’n gweithio’n agos gyda phartneriaid, fel y Brifysgol Agored, dros y misoedd nesaf i sicrhau ein bod yn defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gennym eisoes mewn addysg yng Nghymru i wireddu’r weledigaeth gyffrous o gymhwysedd digidol a amlinellwyd gan Graham Donaldson.