Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016, y Gorchymyn cyflogau cyntaf i gael ei wneud o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.  Daw’r Gorchymyn newydd, sy’n cyflwyno cyfraddau cyflog diwygiedig i bob gradd a chategori o weithwyr amaethyddol yng Nghymru, i rym ar 26 Chwefror 2016.

Ar hyn o bryd, mae gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn cael eu talu ar y cyfraddau talu sylfaenol a nodwyd yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol a ddisodlwyd yn 2012, ac eithrio Gradd 1 sydd wedi’i bennu ar lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. O dan y Gorchymyn Cyflogau newydd, bydd cyflogau gweithwyr yn cynyddu 6% ar gyfartaledd wedi’i seilio ar gyfraddau cyflog sylfaenol 2012.  Fy mwriad yw sicrhau bod y drefn Cyflogau Amaethyddol Sylfaenol yn cael ei chynnal yn briodol ac yn creu cyn lleied o anghyfleustra â phosibl i’r sector.  Am y rheswm hwn, bydd y Gorchymyn newydd yn cadw at y strwythur graddau a ddarperir yng Ngorchymyn 2012.

Mae’r drefn Isafswm Cyflog Amaethyddol yn defnyddio strwythur gyrfa chwe gradd i wobrwyo sgiliau a chysylltu cyfraddau talu â chymwysterau. Mae Gorchymyn Cyflogau 2016 yn cadw at y strwythur hwn ar gyfer gweithwyr sylfaenol a hyblyg er mwyn eu hannog i feithrin rhagor o sgiliau, datblygu gyrfaoedd a gwneud y diwydiant amaethyddol yng Nghymru yn fwyfwy modern a phroffesiynol o fewn y diwydiant yng Nghymru.  Bydd gweithwyr Gradd 2 i 6, gweithwyr ifanc o oedran ysgol gorfodol a phrentisiaid yn gweld eu cyflogau’n cynyddu 6%.  Ers 2012 mae tâl yr awr gweithwyr Gradd 1 wedi cynyddu, a hynny’n unol â chynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a bydd y Gorchymyn hwn yn pennu bod cyflog y Radd 2 geiniog yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol - sef £6.72. Mae Gradd 1 yn cael ei hystyried yn radd bontio.  Mae’r darpariaethau statudol yn cynnal hawliau ar gyfer gweithwyr Gradd 1 sydd wedi cael eu cyflogi’n barhaus am dros 30 wythnos gyda’r un cyflogwr er mwyn cael cymwysterau a fydd yn eu galluogi i symud yn gyflym i radd uwch.

Bydd y strwythur gyrfa, cynnydd yng nghyfraddau isafswm cyflog gweithwyr ifanc a phrentisiaid a’r darpariaethau sydd mewn lle i gefnogi hyfforddiant y mae cyflogwyr yn talu amdano  gynllunio yn helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau sydd yn y sector.  Mae’n hollbwysig bod gennym weithlu sydd â’r sgiliau priodol ac sy’n llawn cymhelliant os ydym am sicrhau hyfywedd a llwyddiant sector amaethyddol Cymru yn yr hirdymor.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cymunedau gwledig ac i sicrhau bod gweithwyr yn y sector amaethyddol yn cael cyflog teg, gan adlewyrchu pwysigrwydd y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud.  Mae ein polisi ni’n gweithio mewn ffordd wahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig lle penderfynwyd cael gwared ar Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr  er gwaethaf ein barn ar y mater.  

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y ‘Farmers Guardian’, roedd 70% o’r ymatebwyr yn Lloegr yn siomedig bod y Bwrdd yno wedi cael ei ddisodli ac roedd 30% ohonyn nhw wedi gweld eu cyflogau’n gostwng.  Hefyd, dywedodd 30% o’r ymatebwyr eu bod yn ystyried gadael y diwydiant.  Mae’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud i gadw’r drefn Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru a rhoi Deddf 2014 ar waith yn creu buddiannau ar gyfer yr holl sector a’r economi wledig ehangach ac mae’n ffurfio sylfaen i weledigaeth Llywodraeth Cymru, sef bod diwydiant amaethyddol Cymru yn fodern, yn broffesiynol ac yn cyflawni elw.

Bwriad Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016 yw gweithredu fel mesur interim a bydd yn parhau i fod mewn grym nes y bydd Gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd yn cael ei wneud, ar sail argymhellion Panel newydd sef Cynghori Amaethyddol Cymru. Bydd y panel hwn yn cael ei sefydlu’n fuan. Unwaith y bydd y Panel wedi’i sefydlu, bydd yn helpu’r diwydiant i weithredu drwy ystyried materion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a hefyd, i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd.  Rwy’n disgwyl y bydd y Panel yn llwyr weithredol erbyn gwanwyn 2016.

Mae sicrhau cyflogau teg i weithwyr amaethyddol a helpu cymunedau gwledig yn hollbwysig o fewn cyd-destun agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.  Mae rhoi Deddf 2014 ar waith, sy’n cynnwys cyflwyno Gorchymyn Cyflogau  newydd, yn helpu’r ymgais i wella sgiliau pawb sy’n gweithio yn y sector amaethyddol.  Mae hyn yn unol â’r argymhellion yn adolygiad yr Athro Wynn Jones o’r cyfleoedd dysgu y mae Colegau Addysg Bellach yn eu darparu a pha mor berthnasol yw’r dysgu hwnnw wrth helpu busnesau amaethyddol yng Nghymru. Nod ein gwaith yw sicrhau bod sector amaethyddol Cymru’n hyfyw ac yn llwyddiannus yn yr hirdymor a chefnogi prif nodau Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sef creu Cymru ffyniannus, gydnerth a mwy cyfartal.