Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar 14 Tachwedd 2023, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y dylid gweithredu rhaglen i frechu rhag varicella fel rhan o'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant.
Mae varicella – sef brech yr ieir – yn glefyd hynod heintus sy’n cael ei achosi gan y feirws varicella zoster. Mae hwn yn feirws cyffredin iawn sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o blant, er y gall rhywun o unrhyw oedran ei ddal am y tro cyntaf.
Mae’r rhan fwyaf o achosion o varicella mewn plant yn gymharol ysgafn, ac mae’r salwch yn cael ei ddatrys heb fod angen iddynt gael triniaeth gan weithiwr meddygol proffesiynol. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yn sgil varicella ddatblygu ymhlith rhai plant, ac mae'r cymhlethdodau hynny'n cynnwys heintiau bacterol neu friwiau croen, gan gynnwys streptococws grŵp A, ac mewn achosion prin, gyflyrau fel enseffalitis, niwmonitis a strôc. O bryd i'w gilydd, gall y cymhlethdodau olygu bod yn rhaid i blentyn gael ei dderbyn i’r ysbyty ac, ar adegau prin gallant arwain at farwolaeth y plentyn.
Yn ei gyngor, nododd y Cyd-bwyllgor y dylai’r rhaglen frechu hon fod yn rhaglen dau ddos, sy’n cynnig brechiad pan fydd plentyn yn 12 mis ac yn 18 mis oed, gan ddefnyddio’r brechlyn MMRV cyfunol (y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella). Mae yna dystiolaeth o wledydd eraill y gall rhaglen frechu leihau nifer yr achosion o varicella, ac atal achosion difrifol a chymhlethdodau difrifol eraill.
Rwyf wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor, sy'n cynnwys y rhaglen reolaidd, ynghyd â threfniadau dal i fyny i blant hŷn hyd at chwech oed er mwyn atal bwlch mewn imiwnedd. Bydd sefydliadau GIG Cymru nawr yn cadarnhau rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer cyflwyno'r rhaglen frechu newydd yng Nghymru.
Bydd cyflwyno'r rhaglen varicella yn cyd-fynd â'r newidiadau i'r amserlen imiwneiddio plant arfaethedig ym mis Ionawr 2026, pan fydd yr apwyntiad brechu newydd ar gyfer plant 18 mis oed yn cael ei gyflwyno.
Brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o atal llawer o glefydau heintus, gan ddiogelu unigolion a diogelu cymunedau yn ehangach. Mae cyflwyno rhaglenni brechu newydd yn destun gobaith y gellir lleihau lefelau clefydau a heintiau ymhellach, gan ddiogelu ein dinasyddion a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
