Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sgoriau arolygu yn sbardun allweddol ar gyfer gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol rheoleiddiedig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Rwyf yn bwriadu iddynt fod o werth gwirioneddol i ddarparwyr gwasanaethau ac i bobl sy'n ceisio neu'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd sgoriau arolygu yn rhoi arwydd clir a gwrthrychol o ansawdd y gwasanaethau a pha mor dda y mae gwasanaethau'n cefnogi pobl. Byddant yn cydnabod rhagoriaeth ac arferion da, a byddant yn tynnu sylw at ble mae angen gwneud gwelliannau. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod sgoriau arolygu yn llwyddiant, a bod y system a gyflwynwn yn gyson, yn deg, ac wedi'i phrofi'n llawn.

Mae'r arolygiaeth yn comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r cyfnod peilot. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r pwysau sylweddol y mae'r sector wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf ac yn wir yn parhau i'w hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, yr argyfwng costau byw a recriwtio a chadw’r gweithlu. Rwyf wedi penderfynu, felly, yn dilyn trafodaeth â’r Prif Arolygydd, ymestyn y cyfnod peilot. Yn ystod y cyfnod hwn caiff sgoriau arolygu tawel (heb eu cyhoeddi) eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Bydd sgoriau arolygu cyhoeddedig ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2025.

Bydd ymestyn y cyfnod peilot yn gyfle i ddysgu o ganfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol, i wneud gwelliannau ac i brofi'r gwelliannau hynny yn ymarferol.  Bydd yn galluogi'r arolygiaeth i gael gwell dealltwriaeth o effaith y system ar ddarparwyr gwasanaethau a thimau arolygu.

Byddaf yn cyflwyno rheoliadau drafft i hwyluso cyhoeddi sgoriau arolygu o fis Ebrill 2025.  Bydd y rheoliadau drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.     

Troednodyn: Mae adran 37 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r sail statudol ar gyfer sgoriau arolygu.