Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, gosodwyd Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) a’i Femorandwm Esboniadol cysylltiedig gerbron y Senedd.
Mae'r Bil yn anelu at gefnogi diwydiant twristiaeth Cymru ac i gyfrannu at ei ddatblygiad yn y dyfodol.
Mae'r Bil yma yn ddarn olaf mewn rhaglen o waith o'n Cytundeb Cydweithrediad gyda Phlaid Cymru sydd wedi'i anelu at ddiweddaru rheoleiddio gosodiadau tymor byr yn unol â'r ffordd y mae'r farchnad ar gyfer llety i ymwelwyr wedi newid, a'r rôl y mae'n ei chwarae yn economeg ymwelwyr ac yn ein cymunedau yn ehangach.
Y Bil yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gynllun trwyddedu ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda llety hunanarlwyo. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru, drwy sicrhau ymwelwyr bod llety yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl a darparu trefn glir i ddarparwyr.
Mae'r Bil hefyd yn creu Cod Cyfraith Cymru ar dwristiaeth a fydd yn ymgorffori'r ddeddfwriaeth bresennol ar ddatblygu twristiaeth yng Nghymru, gyda'r bwriad o wella hygyrchedd deddfwriaeth ym maes twristiaeth.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn ystod y Cyfarfod Llawn yfory, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Senedd a rhanddeiliaid yn ystod y gwaith craffu ar y Bil pwysig hwn dros y misoedd nesaf.
