Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, mae Cymru'n cyflwyno system optio allan neu gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau pobl a fu farw, y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Byddwn yn ystyried bod pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis ac sy'n marw yng Nghymru wedi rhoi cydsyniad i roi organau oni bai eu bod wedi dweud yn glir i'r gwrthwyneb.

Mae'r gyfraith newydd hon yn cydymffurfio â llawer o wledydd eraill yn Ewrop sydd â systemau tebyg, ac fe wnaethom ei chyflwyno er mwyn mynd i'r afael â'r prinder mawr o organau ar gyfer trawsblaniadau rydym yn ei wynebu yma yng Nghymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth ryngwladol, rydym yn rhagweld y bydd y system newydd yn cynyddu'r gyfradd rhoi organau tua 25%. Gallai hyn ganiatáu i 15 yn fwy o bobl roi eu horganau i rywun sydd mewn angen. Gallai'r cynnydd hwnnw olygu bod modd achub neu drawsnewid 45 yn fwy o fywydau bob blwyddyn.

Ni fyddai'r ddeddfwriaeth bwysig ac arloesol hon wedi bod yn bosibl heb waith caled a chymorth nifer mawr o bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i adran Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, yr Awdurdod Meinweoedd Dynol a'r holl weithwyr iechyd proffesiynol a fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r Ddeddf, ailddatblygu'r Gofrestr Rhoi Organau, y Cod Ymarfer a deunyddiau hyfforddi. Gwerthfawrogir hefyd gymorth Llywodraethau gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r sefydliadau rhanddeiliaid niferus am eu cymorth hael yn ogystal â'r holl gleifion a theuluoedd a fu mor barod i'n helpu â'n hymgyrch gyhoeddusrwydd trwy rannu eu profiadau teimladwy.

Rwyf am gydnabod gwaith caled Aelodau'r Cynulliad hwn yn ystod proses graffu'r Bil a'u cymorth dilynol. Rwyf yn falch iawn o'r system syml a chadarn rydym wedi'i datblygu. Bu'r craffu yn y pwyllgor a'r cyfarfod llawn yn hanfodol i ddatblygiad y ddeddfwriaeth hon sydd o safon uchel. Hoffwn nodi fy niolch i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i ragflaenwyr am eu diwydrwydd a'u stiwardiaeth o'r ddeddfwriaeth allweddol hon.

Mae Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn dangos deddfu yng Nghymru ar ei orau ac mae'n profi y bu pobl Cymru yn gywir i ymddiried y pwerau i ddeddfu yn y siambr hon.

Mae biliau aelod preifat i gyflwyno systemau tebyg ar hyn o bryd yn cael eu hystyried gan Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ymgymryd â'r ymgyrch gyhoeddusrwydd fwyaf ac ehangaf yn hanes datganoli yng Nghymru wrth egluro'r newidiadau hyn. Y bore yma gwnaethom osod yr ail adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad a oedd yn amlinellu'r holl weithgarwch cyfathrebu rydym wedi'i gyflawni eleni. 

Er mwyn helpu i gyfrannu at yr ymgyrch, rydym wedi comisiynu ymchwil ynghylch ymwybyddiaeth ac agweddau cyhoeddus i'r newid ac maent wedi dangos eu cefnogaeth gynyddol a chryf fesul chwarter. Mae'r ymchwil hefyd wedi'i defnyddio i dargedu gweithgarwch cyfathrebu trwy'r cyfnod o ddwy flynedd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau diweddaraf yr arolygon hyn. 

Mae'n garreg filltir i Gymru. Rydym yn arwain gweddill y Deyrnas Unedig, gan atgyfnerthu ein henw da fel cenedl anhunanol, dosturiol ac ystyriol o eraill.