Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r system gynllunio yn ysgogi twf economaidd cynaliadwy ac yn creu swyddi da ledled y wlad, wrth ddiogelu ein cymunedau a'n hamgylchedd. 

Rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau sylweddol i'r system gynllunio i adlewyrchu'r rôl bwysig sydd ganddi wrth lunio ein dyfodol, ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiweddaru cydweithwyr ar y gwaith hwnnw. 

Ein huchelgais yw sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyflymaf yn y DU i benderfynu ar geisiadau seilwaith. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad clir i gynnig penderfyniadau amserol i ddatblygwyr ac ymgeiswyr eraill, a darparu sicrwydd ar draws sectorau allweddol gan gynnwys ynni adnewyddadwy, gwastraff, dŵr a thrafnidiaeth. 

Yn ystod 2025, penderfynwyd ar 13 o geisiadau ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), sy'n dangos cynnydd da tuag at gyflawni ein huchelgais.  Ym 2025, bu gostyngiad o chwe wythnos yn yr amser cyfartalog a gymerwyd i benderfynu cais DNS, sydd bellach yn 30 wythnos. 

Yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd gennym ac a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2025, mae'r pŵer gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i benderfynu ar geisiadau ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50 megawat. Mae saith penderfyniad dirprwyedig wedi'u gwneud, gyda phob un ohonynt yn cael eu penderfynu 10 i 15 wythnos cyn y dyddiad cau penderfynu statudol o 36 wythnos Mae hyn wedi symleiddio gwaith PEDW, gan ganiatáu iddynt neilltuo'r adnoddau sydd ar gael i feysydd gwaith eraill gan gynnwys gwneud cynnydd i glirio'r ôl-groniad o apeliadau gorfodi. O ganlyniad, mae PEDW wedi penderfynu ar 86% yn fwy o benderfyniadau gorfodi eleni na'r llynedd.

Bydd gwelliannau sylweddol pellach yn digwydd yn 2026. Daeth Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 i rym ar 15 Rhagfyr y llynedd. Mae hyn yn arwydd arall o'n hymrwymiad i wneud penderfyniadau effeithiol ac effeithlon ar seilwaith ar raddfa fawr, a hynny drwy ddarparu proses gydsynio fodern. Er mwyn sicrhau bod y system yn barod ar y diwrnod cyntaf, fe wnaethom ddarparu cyllid yn ystod 2025 i gryfhau capasiti gwasanaethau cynllunio a ddarperir gan PEDW a Chyfoeth Naturiol Cymru. 

Mae'r system hefyd yn galluogi adennill costau llawn, gan sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn cael adnoddau priodol i helpu i bennu'r ceisiadau hyn mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.  Ein nod yw penderfynu ar bob cais yn yr amserlen statudol 52 wythnos, neu cyn hynny.

Rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith pwysig a wnaed gan awdurdodau cynllunio lleol wrth gefnogi twf economaidd hanfodol. Mae enghreifftiau pwysig o'r llynedd yn cynnwys ceisiadau Ffwrnais Arc Drydan Port Talbot a Chanolfan Ddata Vantage Pen-y-bont ar Ogwr. Er mwyn sicrhau bod gan bob awdurdod cynllunio lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt, daeth y Rheoliadau Ffioedd newydd i rym ar 1 Rhagfyr 2025. Mae'r rheoliadau wedi cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio'n gyffredinol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg rhwng y gost o benderfynu ar geisiadau a'r incwm a dderbynnir am ddarparu'r gwasanaeth hwn. Rydym yn ail-wampio ac yn ailgyflwyno'r Fframwaith Perfformiad i fesur a monitro perfformiad awdurdodau lleol, a sut mae adnoddau ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth. 

Rwyf yn disgwyl i'r buddsoddiad mwyaf yn ein gwasanaethau cynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf arwain at fwy o gynllunwyr yn gweithio yn y maes, fydd yn golygu penderfyniadau cynllunio mwy effeithiol a chyflymach.  Mae ein cynllun Bwrsariaeth Cynllunio Trefol  yn talu'r gost i raddedigion gael cymhwyster ôl-raddedig, gan gynyddu ein nifer o gynllunwyr. Rydym hefyd wedi ariannu dwy rôl uwch gynlluniwr newydd i gefnogi prosiectau seilwaith drwy Wasanaeth Cynllunio ar y Cyd Gogledd Cymru estynedig, gan ddangos y manteision y gall cynllunio rhanbarthol eu cael ar roi adnoddau i geisiadau cymhleth a byddem yn croesawu datganiadau o ddiddordeb pellach ar gyfer cynigion i weithio ar y cyd.

Dros y saith mis diwethaf, mae Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) wedi bod yn cefnogi'r gwaith hwn drwy gynyddu adnoddau o fewn y broses gynllunio yng Nghymru.  Mae prosiectau a gefnogir yn amrywiol o ran eu heffaith ar ddatgarboneiddio diwydiannol Cymru ac yn dod o dan ystod o brosesau cynllunio. Dros y flwyddyn nesaf mae NZIW yn disgwyl cefnogi'r broses gynllunio a chydsynio yng Nghymru ymhellach wrth i fwy o brosiectau gychwyn.

Yn y tymor hwy, fe wnaethom gomisiynu RTPI Cymru i adrodd ar gynllunio'r gweithlu i ddatblygu darlun clir o anghenion capasiti, adnoddau a sgiliau ar draws y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i lunio ein gwaith gyda phartneriaid yn y dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod gennym y cynllunwyr sydd eu hangen arnom i wireddu ein huchelgais i fod y wlad gyflymaf yn y DU i benderfynu ar geisiadau seilwaith.