Neidio i'r prif gynnwys

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi ailbenodi Helen Pittaway, Dr Peter Fox a Lesley Jones yn Aelodau o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru am gyfnod arall o dair blynedd rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Hydref 2029. 

Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Rwy'n hyderus y bydd yr ailbenodiadau hyn yn darparu parhad a phrofiad ar y Bwrdd ar adeg bwysig i'r sefydliad wrth iddo gyflawni ei Gynllun Corfforaethol wedi'i adnewyddu a'i flaenoriaethau o ran y Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, ac wrth iddo baratoi i recriwtio Prif Swyddog Gweithredol parhaol.

Mae Aelodau'r Bwrdd yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu arweinyddiaeth strategol, goruchwyliaeth a her i gefnogi'r gwaith o gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol.

Telir tâl cydnabyddiaeth o £350 y dydd i Aelodau o'r Bwrdd yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 36 diwrnod y flwyddyn.