Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi Dr Hushneara Begum, Adam Taylor a Dr Rebecca Colley-Jones yn Aelodau newydd o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan Dr Hushneara Begum, Adam Taylor a Dr Rebecca Colley-Jones gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w rhoi i'r Bwrdd wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i fynd i'r afael â'r heriau natur, hinsawdd a llygredd yr ydym i gyd yn eu hwynebu.
Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae'n atebol hefyd i Weinidogion Cymru am y ffordd y mae'n gweithredu yn unol â'i lythyr cylch gwaith Gweinidogol.
Bydd penodiad pob aelod yn para o 1 Ebrill 2025 i 31 Hydref 2029.
Proffiliau
Dr Hushneara Begum
Mae Dr Hushneara Begum yn arbenigwr blaenllaw ym maes cynaliadwyedd gydag arbenigedd penodol mewn Caffael Cynaliadwy, Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy, Carbon Isel, Sero Net a Chwmpas 3. Mae Dr Begum yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ran newid llywodraethol, diwydiannol a chymdeithasol.
Adam Taylor
Mae Adam Taylor wedi gweithio mewn amrywiol rolau elusennol gydol ei yrfa ac yn 2019, cafodd ei benodi’r Pennaeth ifanca erioed ar Ymddiriedolaeth Natur. Yn 2022, enillodd Adam MBA gyda Rhagoriaeth yn Ysgol Fusnes Warwick ynghylch sut i gyflwyno arferion gorau byd busnes i sector amgylcheddol y DU. Mae Adam wedi arwain prosiectau, gan gynnwys y prosiect cyntaf i ailgyflwyno'r Bele yn Lloegr, cryfhau’r amodau i ddiogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng nghanllawiau Polisi Cynllunio Cymru a chaffael a rheoli miloedd o erwau o warchodfeydd natur, ffermydd a mannau gwyrdd.
Dr Rebecca Colley-Jones
Mae Dr Rebecca Colley-Jones yn arweinydd amgylcheddol sy'n arbenigo mewn cynaliadwyedd, yr economi gylchol a rheoli adnoddau. Mae gan Dr Colley-Jones PhD ym maes modelau busnes yr economi gylchol yn y sector Offer Trydanol ac Electronig, ac arbenigedd o ran hyrwyddo strategaethau ar gyfer defnyddio adnoddau'n effeithlon. Mae Dr Colley-Jones yn rhugl ei Chymraeg ac yn angerddol dros ofalu am yr amgylchedd a sicrhau etifeddiaeth gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol drwy atebion sy'n seiliedig ar natur ac arweiniad strategol.
Mae aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael tâl o £350 y dydd am hyd at 36 diwrnod y flwyddyn. Bydd diwrnodau ychwanegol o dâl i Aelodau sy'n Cadeirio is-bwyllgorau'r Bwrdd.
Gwnaed pob penodiad ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod gan yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.