Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw’r cyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn codi’n uwch na chyfradd y farchnad.

Rydym wedi gweithredu sawl gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf i osod cap ar gyfradd benthyciadau i fyfyrwyr i ddiogelu myfyrwyr. Yn fwy diweddar, gwnes ddatganiad ar 9 Tachwedd 2022 i gadarnhau cap o 6.5% am dri mis arall o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen. Cafodd y capiau hyn hefyd eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr o Loegr.

Gan fod cyfraddau llog yn dal i fod yn uchel, rhwng 1 Mawrth 2023 a 31 Mai 2023 gosodir cap o 6.9% ar gyfradd y benthyciadau a drefnwyd gan israddedigion ers 2012, a chan fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n bosibl y gosodir capiau pellach ar gyfraddau os bydd cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn is na chyfraddau llog benthyciadau i fyfyrwyr wedi’r dyddiad hwnnw.

Nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn effeithio ar ad-daliadau misol benthyciadau i fyfyrwyr, gan mai cyfran sefydlog o incwm y myfyriwr yw’r swm a delir. Mae ad-daliadau benthyciadau yn ddibynnol ar lefel yr incwm. Dim ond os yw myfyrwyr yn ennill dros drothwy arbennig y maent yn gorfod ad-dalu eu benthyciad, a chaiff unrhyw ddyled sy’n dal heb ei thalu ar ôl tri deg mlynedd ei chlirio.

Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio mewn prifysgol, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU. Ar gyfartaledd, mae llai gan fyfyrwyr Cymru i’w ad-dalu na’u cyfoedion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn talu hyd at £1,500 o ddyled pob unigolyn sy’n mynd ati i ddechrau ei had-dalu, cynllun sy’n unigryw o fewn y DU.