Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw cyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn codi'n uwch na chyfradd y farchnad.

Rydym wedi gweithredu sawl gwaith yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i osod cap ar gyfradd benthyciadau i fyfyrwyr i ddiogelu benthycwyr Cymru. Mae’n bosibl y gosodir capiau ychwanegol ar gyfraddau os bydd cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn is na chyfraddau llog benthyciadau i fyfyrwyr.

I ddiogelu myfyrwyr Cymru ymhellach rhag cyfraddau llog uchel parhaus, rydym wedi sefydlu system ddeddfwriaethol i gymhwyso cap ar gyfraddau llog yn awtomatig pryd bynnag y byddai'r cyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr fel arall yn uwch na chyfradd y farchnad. Bydd cap yn cael eu osod a'i addasu'n fisol ar gyfradd llog myfyrwyr Cymru sydd â benthyciadau Cynllun 2 (israddedig) neu Gynllun 3 (ôl-raddedig) pan fydd y cyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr yn uchel.

Bydd y system hon yn sicrhau bod gosod cap ar gyfraddau llog yn dryloyw ac yn ymatebol i gyfraddau newidiol a bydd yn diogelu benthycwyr Cymru rhag ad-dalu mwy ar eu benthyciadau yn y dyfodol.

Nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn effeithio ar ad-daliadau misol benthyciadau myfyrwyr, gan mai cyfran sefydlog o incwm y myfyriwr yw’r swm a delir. Mae ad-daliadau benthyciadau yn ddibynnol ar lefel yr incwm. Dim ond os yw myfyrwyr yn ennill dros drothwy arbennig y maent yn gorfod ad-dalu eu benthyciad, a chaiff unrhyw ddyled sy’n dal heb ei thalu ar ôl tri deg mlynedd ei chlirio.

Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio mewn prifysgol, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth hael i fyfyrwyr, gan gynnwys grantiau ar gyfer costau byw. Ar gyfartaledd, mae llai gan fyfyrwyr Cymru lai i'w ad-dalu na'u cyfoedion yn Lloegr. Llywodraeth Cymru hefyd yn talu hyd at £1,500 o ddyled pob unigolyn sy’n mynd ati i ddechrau ei had-dalu, cynllun sy’n unigryw o fewn y DU.