Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mi wnes i ddatganiad ar 5 Medi 2022 i gadarnhau’r bwriad i osod cap o 6.3% ar y gyfradd log a godir ar rai o fenthyciadau myfyrwyr Cymru o fis Medi 2022, a hynny am gyfnod o dri mis.  Cyhoeddwyd y cap hwn hefyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr Lloegr.

Gallaf nawr gyhoeddi y caiff y gyfradd log ei chapio o 1 Rhagfyr 2022 am dri mis arall. Y gyfradd ar gyfer y tri mis hyn fydd 6.5%.

Mae’r gyfradd chwyddiant, sy’n pennu’r llog a godir ar rai o fenthyciadau myfyrwyr wedi codi’n sylweddol. Heb gap mis Medi, byddai’r cyfraddau llog ar y benthyciadau hyn wedi codi i hyd at 12%. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw’r cyfraddau yn codi’n uwch na chyfradd y farchnad, a gweithredodd deirgwaith yn ystod 2021 i osod cap ar gyfradd benthyciadau a diogelu myfyrwyr.

Gan fod cyfraddau’r farchnad yn dal i fod yn uchel, rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 28 Chwefror 2023 gosodir cap o 6.5% ar gyfradd y benthyciadau a drefnwyd gan israddedigion ers 2012, a chan fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n bosibl y gosodir capiau pellach ar gyfraddau os bydd cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn is na chyfraddau llog benthyciadau myfyrwyr wedi’r dyddiad hwnnw.

Nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn effeithio ar ad-daliadau misol benthyciadau myfyrwyr, gan mai cyfran sefydlog o incwm y myfyriwr yw’r swm a delir. Mae ad-daliadau benthyciadau yn ddibynnol ar lefel yr incwm. Dim ond os yw myfyrwyr yn ennill dros drothwy arbennig y maent yn gorfod ad-dalu eu benthyciad, a chaiff unrhyw ddyled sy’n dal heb ei thalu ar ôl tri deg mlynedd ei chlirio.

Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio mewn prifysgol, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU. Ar gyfartaledd, mae llai gan fyfyrwyr Cymru i’w ad-dalu na’u cyfoedion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn talu hyd at £1,500 o ddyled pob unigolyn sy’n mynd ati i ddechrau ei had-dalu, cynllun sy’n unigryw o fewn y DU.