Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r pŵer i’r Senedd osod Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC).

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ar gyfer gweithredu CTIC. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn amlinellu’r gofynion, y graddfeydd amser a’r mesurau perfformiad. Bydd cadw at y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn sicrhau y rhoddir gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr yng Nghymru ac yn galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i ddiwallu eu cyfrifoldebau priodol yn ymwneud â gweithredu treth incwm Cymru.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CThEF wedi adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau ei fod yn addas i’r diben o hyd. Fel rhan o’r broses hon, gwnaed rhai newidiadau a diwygiadau. Mae’r newidiadau’n cynnwys:

  • Diweddariadau cyffredinol yn egluro rolau a gofynion mewn meysydd megis rhannu data ac adolygiadau chwemisol
  • Amserlenni wedi’u diweddaru ar gyfer cyhoeddiadau ystadegol
  • Newidiadau i weithrediad fframwaith CTIC o ran costau y gellir ailgodi tâl amdanynt.

Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol i CThEF gyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithrediad CTIC. Mae’r adroddiad diweddaraf ar gyfer blwyddyn dreth 2021-22 hefyd wedi ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn nodi gwybodaeth am sut mae CThEF yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys:

  • Nodi trethdalwyr Cymru a gwaith sicrwydd mewn perthynas â hynny;
  • Gweithgareddau cydymffurfio;
  • Casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano;
  • Gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid;
  • Data ar gyfer pennu cyfraddau a llunio rhagolygon CTIC;
  • Llywodraethiant a throsolwg ar gyfer CTIC;
  • Costau gweithredu CTIC ac ailgodi tâl am gostau CThEF.

Mae’r dogfennau ar gael yma:

Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer gweithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEF - GOV.UK (www.gov.uk)

Adroddiad Blynyddol 2022 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru - GOV.UK (www.gov.uk)