Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi'r pŵer i'r Senedd bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT).

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CthEF) ar gyfer gweithredu CTIC. Mae'n nodi'r gofynion, yr amserlenni a'r mesurau perfformiad. Mae cadw at y Cytundeb yn sicrhau y rhoddir gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr yng Nghymru ac yn galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i fodloni eu cyfrifoldebau priodol o ran gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CThEF wedi adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau ei fod yn addas i’r diben o hyd. Fel rhan o’r broses hon, gwnaed rhai newidiadau a diwygiadau.   

Mae'r adolygiad diweddaraf yn adlewyrchu ymrwymiad CThEF i ddarparu cyngor gweithredu i Lywodraeth Cymru ynghhylch gwneud newidiadau i WRIT. Mae'n cynnwys testun ynglŷn â’r broses effeithio, gan wneud rhwymedigaethau a dull gweithredu CThEF yn glir.

Mae dolen at y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gael yn:

Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer gweithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEF