Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond nid yw’r pandemig ar ben, a diogelu iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Rydym yn cynghori’n gryf o hyd na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, a hynny oherwydd y  risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder.

Rydyn ni’n ymwybodol o gynigion Llywodraeth y DU i lacio’r cyfyngiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi cael dau frechlyn yn dychwelyd o wledydd ar y rhestr ambr i Loegr. Byddwn yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth sydd ar gael ac yn gwneud penderfyniad ar gyfer Cymru.

Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o’r cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol, rydym yn parhau i ddilyn yr un dull goleuadau traffig o asesu risg ar gyfer teithio rhyngwladol â gweddill y DU.

Mae Anguilla, Antigua a Barbuda, Ynysoedd Baleares, Barbados, Bermuda, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Ynysoedd Cayman, Dominica, Grenada, Madeira, Malta Montserrat, Pitcairn, Henderson, Ynysoedd Ducie ac Oeno, Ynysoedd Turks a Caicos wedi cael eu symud i’r rhestr werdd.

Rydym hefyd wedi cytuno i ychwanegu Israel i’r rhestr werdd y cedwir llygad arni - mae’r rhestr werdd hon yn nodi gwledydd sydd â’r risg fwyaf o symud o wyrdd i oren fel bod teithwyr yn cael rhywfaint o rybudd y gallai eu lleoliad teithio gael ei symud i’r categori oren.

Mae chwe gwlad – Gweriniaeth Dominican ​, Eritrea​, Haiti​, Mongolia​, Tunisia ​ac Uganda – yn cael eu rhoi ar y rhestr goch. Daw’r holl newidiadau i’r rhestrau i rym am 4am ddydd Mercher 30 Mehefin.  

Mae ein neges yn glir – dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref. Rydym yn galw ar bobl i deithio tramor dim ond os oes ganddynt resymau hanfodol. Mae pob un ohonom wedi aberthu cymaint er mwyn rheoli’r pandemig yng Nghymru, ac nid ydym am weld y feirws yn dod eto – neu amrywiolynnau newydd yn dod i’r wlad – o ganlyniad i bobl yn teithio dramor.