Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Mae'n set gynhwysfawr o dystiolaeth sy'n cynnwys yr Achos Busnes, yr Asesiad Effaith Integredig a'r dadansoddiad economaidd diweddaraf.
Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn ymdrin â chanlyniadau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol posibl y Cynllun. Rydym wedi defnyddio'r data gorau sydd ar gael, ystod o offer dadansoddol, gwyddonwyr blaenllaw a mewnbwn sylweddol gan randdeiliaid. Mae'r dystiolaeth wedi dylanwadu'n drwm ar y penderfyniad i roi'r Cynllun ar waith yn 2026.
Mae'r Achos Busnes yn glir bod disgwyl i'r SFS sicrhau canlyniadau gwell a rhoi mwy i ni am ein harian i ni na'r Cynllun Taliad Sylfaenol, y cynllun cymorth presennol.
Y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw o'r Cynllun yw'r rheswm pam ein bod wedi ymrwymo hyd at £238m i'r Taliad Cyffredinol, ac o leiaf £102m ar gyfer yr Haenau Opsiynol a Chydweithredol yn 2026.
Mae'r dystiolaeth yn gynhwysfawr, ond rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau iddi.
Mae llawer o'r data yn seiliedig ar fodelau a rhaid cofio nad yw'r rheini'n rhagolygon o'r hyn fydd yn digwydd.
Hoffwn bwysleisio hefyd ei bod yn bwysig edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd ac nid fel darnau unigol ar wahân. Nid oes unrhyw ffigur na darn unigol o dystiolaeth yn dweud y stori gyfan.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i holl aelodau Ford Gron y Gweinidogion a'n helpodd i lunio'r SFS a gyhoeddwyd eleni. Mae eu mewnbwn, ochr yn ochr â'r dystiolaeth hon, wedi bod yn hanfodol wrth lunio'r Cynllun.
Rydym wedi neilltuo llawer iawn o amser i weithio mewn partneriaeth i greu Cynllun sy'n hygyrch i bawb, sy'n rhoi dewis, sy'n galluogi ffermwyr i wneud mwy o’u penderfyniadau rheoli eu hunain i sicrhau'r canlyniadau yr ydym i gyd am eu gweld, ac sy'n cydnabod y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud ar ffermydd ledled Cymru.
Mae'n amlwg bod y Cynllun wedi’i wella’n sylweddol, diolch i gydweithio.
O dan yr SFS, rydym yn gofyn i ffermwyr gynnal gweithredoedd, yn gyfnewid am Daliad Cyffredinol.
Bydd rhai o'r Gweithredoedd Cyffredinol hyn yn golygu cost i ffermwyr, a gall hynny gael effaith bosibl ar Incwm Busnesau Fferm.
Mae'n bwysig deall bod modelau economaidd yn debygol o oramcangyfrif yr effaith hon, oherwydd nid yw model statig yn ystyried unrhyw rai o'r manteision economaidd cadarnhaol tymor hwy i ffermwyr o gynnal y gweithredoedd hynny. Mae'r SFS yn cefnogi gwneud penderfyniadau ar y fferm. Dylai hynny arwain dros y tymor hwy at lai o gostau, cynhyrchiant gwell a chanlyniadau amgylcheddol gwell. Rhaid i ni hefyd gofio bod yna lawer o ffermwyr eisoes yn ysgwyddo rhai o gostau cydymffurfio â rhai o'r Gweithredoedd Cyffredinol – adlewyrchir effaith hynny yn y dadansoddiad o sensitifrwydd. Yn yr un modd, mae'r modelau yn debygol o fod wedi gorliwio'r newidiadau posibl yn allbwn eich fferm, y defnydd o lafur ac Incwm y Busnes yn sgil y model o’r gostyngiadau posibl yn nifer y da byw.
I gadw pethau'n syml, mae'r model yn defnyddio llinell sylfaen 2019 ac yn rhagdybio bod y canllawiau rheoli cynefinoedd yn orfodol. Yn ogystal, bydd y ffermwyr hynny yng Nghynllun Cynefinoedd Cymru eisoes yn rheoli eu coetir a'u cynefinoedd, Adlewyrchir effaith hynny yn y dadansoddiad sensitifrwydd.
Rydym bellach wedi rhoi'r gorau i bennu cyfraddau pori ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd.
Yn hytrach, rydym wedi cynnwys disgrifiad o'r canlyniadau yr ydym am eu sicrhau ac wedi caniatáu i ffermwyr wneud eu penderfyniadau rheoli eu hunain yn unol â'u hamgylchiadau unigol, a thrwy hynny leihau'r tebygolrwydd o orfod gostwng eu da byw.
Mae'r dadansoddiad economaidd ond yn ymdrin â rhan o’r SFS gan ei fod yn dadansoddi'r Gweithredoedd Cyffredinol yn unig.
Mae'r Achos Busnes yn nodi cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol arwyddocaol y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, er enghraifft y rheini sy’n anelu at wella ansawdd dŵr, cyfoethogi bioamrywiaeth a chefnogi dulliau ffermio mwy effeithlon a charbon-gyfeillgar.
Byddwn yn parhau i helpu ffermwyr i wneud y gorau o'r manteision i'w busnesau fferm ac i'r amgylchedd drwy ddefnyddio tair haen y Cynllun.
Bydd y sefydlogrwydd, cynhyrchiant uwch ac effeithlonrwydd gwell a ddaw o hynny yn cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd o safon ac yn cryfhau eu lle yn y farchnad.
Nid oes dwy fferm yr un fath. Nid yw'r dystiolaeth a gyhoeddir heddiw yn esbonio beth mae'r Cynllun yn ei olygu i ffermydd unigol.
Felly, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn dod i ddeall beth fydd y Cynllun yn ei olygu iddyn nhw a'u fferm, a beth fydd eu taliadau tebygol yn 2026.
Rydym wedi cyhoeddi canllaw cyflym i wneud hynny ac yn annog pob ffermwr i'w ddefnyddio i ddysgu mwy.
Rydym hefyd yn cynnal cyfres o sioeau teithiol ledled Cymru i ddysgu mwy i ffermwyr am y Cynllun a sut y gall eu busnes fferm elwa.
Rwy'n cydnabod bod yr SFS yn golygu newidiadau i chi.
Mae'r Cynllun yn sylfaenol wahanol i'r Cynllun Taliad Sylfaenol, ond mae'n gwbl angenrheidiol ar gyfer llwyddiant hirdymor ffermio, cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd.
Mae'r Cynllun wedi'i gynllunio i sicrhau dyfodol cynhyrchu bwyd ac i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Mae'n cydnabod rôl hanfodol ffermio yng nghymunedau a diwylliant Cymru a bydd yn helpu i fynd i'r afael â heriau fel y newid yn yr hinsawdd ac adfer natur.
Bydd yn cefnogi ffermydd a busnesau fferm i fod yn wydn a llwyddiannus.
Byddwn yn monitro effaith y Cynllun ac yn ychwanegu at ein tystiolaeth wrth iddi ddod i'r amlwg i sicrhau bod y Cynllun yn llwyddiant.
