Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adolygiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru o rolau a chyfrifoldebau athrawon cyflenwi yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi drwy awdurdodau lleol neu'n uniongyrchol gan ysgolion.

Comisiynwyd Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (yr IWPRB) i gynnal adolygiad strategol o strwythur presennol cyflog, telerau ac amodau athrawon.  Roedd hyn yn cynnwys tâl ac amodau athrawon cyflenwi o fewn cwmpas Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).   Mae ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gyflwyno model mwy cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi, sy'n rhoi lle canolog i waith teg, yn golygu bod yr elfen o'r adolygiad sy'n edrych ar athrawon cyflenwi yn ffurfio adroddiad ar wahân. 

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion pellgyrhaeddol sy'n gofyn am ystyriaeth tymor hirach. Gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, byddwn yn bwrw ymlaen â thrafodaethau dilynol gyda rhanddeiliaid ar yr adroddiad a'i argymhellion.

Rwy'n ddiolchgar i'r IWPRB ac i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at yr adroddiad.