Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Chwefror eleni fe gyhoeddodd Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ar y pryd bod hi’n comisiynu Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ("y Ganolfan"). Heddiw, mae’n bleser gen i ddatgan fy mod yn cyhoeddi Adroddiad yr Adolygiad hwnnw sy’n cyflwyno casgliadau ac argymhellion y grŵp adolygu.  Mae’r Adroddiad wedi cael ei gyhoeddi fan hyn: https://llyw.cymru/adolygiad-cyflym-or-ganolfan-dysgu-cymraeg-genedlaethol. Rwy’n ddiolchgar iawn i Steve Morris a’i dîm am baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n cyflwyno argymhellion clir i ni ystyried wrth i ni agosáu at ail dymor y Ganolfan.

Rwyf wedi penderfynu cyhoeddi’r Adroddiad hwn heddiw gan fod hi’n ddiwrnod o ddathlu llwyddiant dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth gyhoeddi Dysgwr y Flwyddyn. Mae’n briodol iawn felly bod yr Adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn ein hatgoffa o’r cyfraniad mae’r Ganolfan yn gwneud wrth greu siaradwyr Cymraeg newydd a chyfraniad amhrisiadwy y siaradwyr hynny i’w cymunedau, i Gymru, ac i’r Gymraeg.

Mae’r Adroddiad yn glir ei gasgliadau bod y Ganolfan wedi cyfrannu’n effeithiol i Cymraeg 2050 ac wedi cyflwyno’r Gymraeg i siaradwyr newydd, a bod y strwythur cenedlaethol wedi rhoi sail gadarn i’r sector Dysgu Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’r arloesi digidol ddigwyddodd yn ystod y pandemig hefyd wedi creu cyfleoedd cyffrous. Mae’r Adroddiad hefyd yn cadarnhau bod y Ganolfan wedi meithrin arbenigedd, wedi gwella cydlyniad o fewn y sector Dysgu Cymraeg, wedi datblygu cwricwlwm cenedlaethol, ac wedi ffurfio partneriaethau effeithiol ers ei sefydlu yn 2015.

Mae’r Adroddiad yn cyflwyno 22 o argymhellion i ni eu hystyried. Maent wedi cael eu rhannu i 5 categori: Y Ganolfan fel dylanwadwr strategol; ehangu cylch gwaith y Ganolfan; darpariaeth y Ganolfan; rheoli gwybodaeth y Ganolfan; a gwaith y Ganolfan yn meithrin partneriaethau.  Byddwn ni’n mynd ati dros weddill yr haf i ystyried yr argymhellion, ac fe fyddaf yn cyhoeddi ymateb llawn i’r argymhellion ac yn diweddaru Aelodau yn gynnar yn y tymor newydd. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.