Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adolygiad strategol Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr yng Nghymru

Ym mis Rhagfyr 2021, comisiynwyd Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (yr IWPRB) i gynnal adolygiad strategol o strwythur presennol cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr yng Nghymru, a chynnig sut i wella ein system bresennol a'n helpu i greu system decach, fwy tryloyw i bob athro. 

Rwy'n falch o nodi bod yr Adolygiad Strategol yn cydnabod cryfderau'r trefniadau cyflog ac amodau presennol a'r angen i gadw'r newidiadau cadarnhaol a gyflwynwyd i'r strwythur ers 2018, pan gafodd y cyfrifoldeb dros gyflog ac amodau athrawon ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad cynhwysfawr a manwl gan yr IWPRB yn cynnwys 26 o argymhellion, yn ymwneud yn bennaf â chyflog, telerau ac amodau, sydd wedi eu cynllunio i gryfhau'r trefniadau presennol hyn. 

Rwy'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion, yn amodol ar ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol drwy ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol effeithiol sydd wedi eu hen sefydlu. Mae'r argymhellion eang hyn yn gofyn am ystyriaeth fanwl. Bydd gwahoddiad i randdeiliaid allweddol graffu ar yr Adroddiad a rhoi sylwadau ar ei argymhellion, gan gynnwys goblygiadau, ymarferoldeb ac amseriad gweithredu posibl, megis y pwysau presennol ar holl gyllidebau'r sector cyhoeddus. 

Mae i lawer o'r argymhellion oblygiadau ariannol. Un o'r elfennau pwysig wrth ystyried eu heffaith a'n gallu i'w gweithredu, felly, fydd eu fforddiadwyedd o ystyried y sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion. O ystyried y pwysau ariannol hyn, ni fydd unrhyw un o'r argymhellion yn cael eu gweithredu  yn y tymor byr i ganolig oni bai y gellir dangos eu bod naill ai'n niwtral o ran cost neu'n gallu cael eu gweithredu o fewn cyllidebau presennol.

Hoffwn ddiolch i gadeirydd ac aelodau'r IWPRB am eu gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi arwain at yr adroddiad cynhwysfawr hwn. Diolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu tystiolaeth a rhoi eu barn. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â'r sector i wella'r strwythur presennol ar gyfer cyflog ac amodau athrawon, gan adeiladu ar y cryfderau i greu system sy'n sicrhau bod athrawon ac arweinwyr Cymru yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod y strwythur yn addas i'r diben ac yn deg ar draws y proffesiwn cyfan.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.