Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddodd Estyn yr adroddiad thematig cyntaf ar weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Dyma'r cyntaf o ddau adolygiad thematig y comisiynwyd Estyn i'w cynnal, gyda'r nod o asesu pa mor effeithiol y mae ysgolion cynradd a gynhelir, ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Hoffwn ddiolch i Estyn am wneud y gwaith pwysig hwn ochr yn ochr â ffocws ar ddiwygiadau ADY ar draws eu gwaith arolygu. Mae'r adolygiad hwn yn hanfodol i'n helpu i fesur y cynnydd a gyflawnwyd ac i nodi'r meysydd gwella sy'n ofynnol ar draws y system wrth i'r diwygiadau ADY barhau. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid yn y sector addysg am roi o'u hamser i gyfrannu eu dealltwriaeth a'u profiadau pwysig i lywio'r adolygiad hwn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) am eu hymrwymiad, eu gwytnwch a'u hymroddiad parhaus o ran gwireddu uchelgeisiau'r diwygiadau.

Mae gweithredu diwygiadau ADY a'r Cwricwlwm yn ystod cyfnod o heriau digynsail wedi bod yn ymrwymiad aruthrol i bawb dan sylw. Rwy'n cydnabod bod trosglwyddo o un system i'r llall yn gofyn am amser ac amynedd.

Gwelodd Estyn frwdfrydedd ymysg ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ynghyd ag enghreifftiau cryf o gynllunio o amgylch anghenion plant a phobl ifanc. Mae'r dulliau hyn nid yn unig wedi caniatáu i ysgolion fod yn arloesol o ran y cymorth y maent yn ei ddarparu i ddisgyblion, ond maent hefyd wedi grymuso rhieni i gymryd rhan ystyrlon mewn trafodaethau ynghylch y gefnogaeth a'r ddarpariaeth a gaiff eu plant. O ganlyniad, fe wnaethant weld y berthynas rhwng ysgolion a rhieni yn cryfhau, agwedd hanfodol ar ein diwygiadau addysg.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi fy ymateb i groesawu'r argymhellion a amlinellir yn adroddiad Estyn, gan gydnabod ar yr un pryd bod heriau i bob rhan o'r system yn parhau.

Byddaf yn ysgrifennu'n uniongyrchol at awdurdodau lleol i dynnu eu sylw at argymhellion yr adroddiad. Ar ben hynny, bydd fy swyddogion yn cyfathrebu ag awdurdodau lleol ac ysgolion drwy ystod o gyfarfodydd i rannu negeseuon allweddol ar weithredu'r system ADY, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid i sicrhau bod y system ADY yn cael ei gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.