Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu Strategaeth Iaith Gymraeg, ac ar ôl pob blwyddyn i gyhoeddi adroddiadau yn amlinellu sut cafodd y cynlluniau a nodir yn y Strategaeth eu gweithredu yn ystod y flwyddyn honno.

Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyfer 2013-14 mewn perthynas â’r Strategaeth Iaith. Dangosa’r adroddiad yn glir ymroddiad Llywodraeth Cymru i’r iaith Gymraeg a’n bod yn benderfynol i’w gweld yn ffynnu. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif ddatblygiadau, llwyddiannau a heriau wrth i ni fynd ati i’w gweithredu yn ystod 2013-14. Mae hefyd yn cynnwys atodiad gyda data dangosyddion perfformiad sy’n cyfateb â’r dangosyddion o fewn y Strategaeth.