Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llofnodwyd y cytundeb i'r DU ddod yn aelod o Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach ar 16 Gorffennaf 2023.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y DU yn dod yn aelod o'r CPTPP ar ein tudalennau gwe Polisi Masnach.

Mae'r adroddiad yn rhoi sylwadau ynghylch y DU yn dod yn aelod o'r CPTPP, gan gynnwys y meysydd a allai fod yn bwysig i Gymru yn fy marn i, a'r effeithiau economaidd posibl. Rwy'n gobeithio y bydd y safbwynt sy'n canolbwyntio ar Gymru a'r wybodaeth yn yr adroddiad yn helpu Aelodau o'r Senedd, busnesau a'r cyhoedd i graffu ar y cytundeb.