Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016-17 mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.  

2016-17 oedd y flwyddyn olaf lawn o weithredu yn erbyn strategaeth Iaith fyw: iaith byw, ac yn ystod y cyfnod hwn buom yn gweithio ar ddatblygu’r strategaeth a’i dilynodd, gyda’i tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Oherwydd y ffocws hwn ar lunio a dechrau gweithredu’r strategaeth newydd, cyhoeddir yr adroddiad hwn rhywfaint yn ddiweddarach nag y byddem yn ei ddymuno.

Cyhoeddwyd strategaeth Iaith fyw: iaith byw yn 2012, gan amlinellu’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer y cyfnod 2012-2017. Roedd y datganiad polisi Iaith fyw: iaith byw – Bwrw Mlaen, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, yn rhoi ffocws penodol i’n blaenoriaethau fel Llywodraeth dros dair blynedd olaf y strategaeth. Mae’r adroddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn crynhoi ein gweithredu yn erbyn y blaenoriaethau hynny yn ystod 2016-17, gan nodi sut wnaeth hynny gyfrannu at chwe maes strategol y Strategaeth.


Linc i’r ddogfen:

http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/welsh-language-policies-upto-2017/wl-strategy-annual-report/?lang=cy


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.