Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw caiff Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2024-25 a Chynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2026-27 eu cyhoeddi.
Cyhoeddir y dogfennau o dan Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, sy’n dangos ein hymrwymiad i weithio tuag at gyflawni strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, a’r ddau brif darged:
- Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050; a
- Cynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, o 10% (yn 2013–15) i 20% erbyn 2050.
Mae’r adroddiad blynyddol yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gennym ni a nifer o’n partneriaid yn ystod 2024–25. Mae’r Cynllun Gweithredu yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu’r amcanion a nodir yn strategaeth Cymraeg 2050 yn ystod 2026–27.
Rhoddodd yr adroddiad blynyddol gyfle fyfyrio nid yn unig ar y cynnydd a wnaed yn ystod 2024-25, ond hefyd ar daith polisi iaith ers ddechrau datganoli. Heddiw, mae’r syniad bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd wedi’i wreiddio yn ein bywyd cenedlaethol. Un o elfennau pwysicaf yr iaith yw cymaint o ewyllys da sydd tuag ati.
Mae cyflawni nodau Cymraeg 2050 yn gofyn am weithredu radical parhaus. Caiff y gweithredoedd hyn eu saernïo gan ein cred ddiamheuol bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru – y rhai ohonom sy’n ei siarad yn hyderus, y rhai sy’n dysgu Cymraeg, a’r rhai sy’n siarad ychydig eiriau yn unig neu nad ydynt yn siarad Cymraeg o gwbl.
Mae gweithio tuag at gyflawni nodau Cymraeg 2050 wedi gofyn am weithredu cyflym, yn ogystal â mesurau strategol i roi sail i dwf hirdymor yr iaith. Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Gweithredu ill dau yn adlewyrchu ehangder ein gwaith, o ymyriadau sy’n dathlu’r iaith fel Dydd Miwsig Cymru i newidiadau deddfwriaethol megis Ddeddf y Gymraeg ac Addysg. Mae’r llun ar glawr yr Adroddiad Blynyddol – a dynnwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd – yn symbol clir bod y gwaith a wnawn heddiw i ddathlu’r iaith hefyd yn gallu sicrhau etifeddiaeth barhaol.
Wrth i’r Llywodraeth bresennol fyfyrio ar dymor Senedd 2021-2026, mae’n debygol y bydd y Llywodraeth nesaf yn dymuno adolygu Cymraeg 2050 ac ymgynghori ar strategaeth newydd yng ngoleuni gofynion newydd Deddf y Gymraeg ac Addysg a’r newidiadau sydd wedi digwydd ers cyhoeddi Cymraeg 2050 yn 2017.
Tan hynny, byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’r egwyddorion a nodir yn Cymraeg 2050 a’r camau a gynhwysir yn y Cynllun Gweithredu diweddaraf hwn ar gyfer 2026-27.
Bydd gwaith ar draws amrywiol bortffolios gweinidogol a gydag ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru yn ein symud ymlaen ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Rwy’n hyderus y bydd y Llywodraeth nesaf yn gallu defnyddio’r sylfeini cadarn sydd gennym i ddatblygu’r iaith ymhellach ar ei thaith tuag at 2050.
