Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Iaith Gymraeg a baratowyd o dan Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Adran 21 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.  Mae’r cynllun yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bodloni’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, sef y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ac wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, cyhyd â bod hynny’n addas i’r amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

Heddiw, rydw i wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cynllun Iaith ar gyfer 2014-15.  Hwn fydd yr adroddiad olaf ond un cyn i ni weithredu Safonau’r Gymraeg yn 2016.  Mae’r adroddiad hwn nid yn unig yn amlinellu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu gofynion y cynllun, ond hefyd y paratoadau sydd ar waith i weithredu’r safonau newydd.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir ymroddiad Llywodraeth Cymru i weld yr iaith yn ffynnu.