Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 22 Ionawr, lansiais i'r ymgynghoriad Cysoni’r model prentisiaethau ag anghenion economi Cymru.  Diben yr ymgynghoriad oedd ceisio barn cyflogwyr, prentisiaid, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill sy’n ymwneud â chynllunio a chyflenwi prentisiaethau er mwyn helpu i ffurfio a llywio dyfodol y rhaglen prentisiaethau yng Nghymru yn unol â’r uchelgais yn y Datganiad Polisi ar Sgiliau, a gyhoeddwyd gennym yn 2014.  Roedd yr ymgynghoriad ar agor am 13 wythnos a chaeodd ar 24 Ebrill 2015.

Rwyf i’n ddiolchgar i’r holl bobl ifanc, cyflogwyr a chyrff a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Cawsom dros 130 o ymatebion ffurfiol a 21 o ymatebion anffurfiol ynghyd â 163 o ymatebion i’r fersiwn oedd wedi’i anelu at bobl ifanc.

Rwyf i’n falch fod y mwyafrif llethol o ymatebwyr ar y cyfan yn cefnogi agwedd newydd at brentisiaethau yng Nghymru. Roedd llawer iawn o gefnogaeth i ddatblygu Prentisiaethau Uwch, er nid ar draul Prentisiaethau Sylfaen; y farn oedd bod y rhain yn cyflawni rôl hanfodol i lawer o gyflogwyr.

Roedd nifer o’r ymatebion yn canolbwyntio ar yr angen i egluro manteision y rhaglen prentisiaethau’n well – i gyflogwyr, ysgolion a rhieni – a’r angen i sicrhau bod gan brentisiaethau baredd â chymwysterau academaidd.

Er bod ymatebwyr yn cytuno bod llawer y gellid ei ddysgu o raglenni oedd yn cael eu datblygu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd awydd cyson i weld rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol i ddiwallu anghenion cyflogwyr a phobl ifanc yng Nghymru; yn enwedig wrth ystyried y nifer o BBaChau a microfusnesau sydd yng Nghymru. Roedd neges glir hefyd na ddylid colli llais cyflogwyr llai wrth ddatblygu rhaglenni prentisiaethau.

Yr hyn a ymddangosodd yn gryf drwy’r ymgynghoriad oedd pwysigrwydd perthynas waith agos rhwng y llywodraeth, cyflogwyr a darparwyr addysg (yn enwedig mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch) i sicrhau bod y rhaglenni’n cael eu datblygu’n gyson, gyda lefelau sgiliau clir a chyfartal, a llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr i ymgynghoriad y Bobl Ifanc yn cefnogi prentisiaethau ac yn teimlo eu bod yn cynnig cyfleoedd clir i bobl ifanc at y dyfodol. Roedd y mwyafrif llethol o ymatebwyr yn teimlo ei bod yn bwysig fod rhaglenni prentisiaethau’n cael eu datblygu i fod yn gryf ac yn addas i gyflogwyr a dysgwyr ar draws Cymru.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gyda datblygu cynllun gweithredu ar gyfer model prentisiaeth newydd i Gymru a gaiff ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.