Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi Adroddiad Cryno o’r Ymatebion i’r ddogfen ymgynghori ‘Cefnogi Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Arweiniad ar y Cyd a Deddfwriaeth: Ymgynghoriad am Fil Drafft Gwasanaethau Cyhoeddus (Gweithlu) (Cymru)’  a gyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2013. Gwahoddwyd safbwyntiau ar y cynigion fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben yn ffurfiol ar 21 Chwefror 2014.

Cyhoeddwyd yr Adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae ar gael isod:

http://wales.gov.uk/consultations/improving/supporting-public-service-workforce/?skip=1&lang=cy

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen. Yng ngoleuni’r ymatebion a chanfyddiadau’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, dan arweiniad Syr Paul Williams, cyhoeddodd  Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar y pryd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mai 2014 fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chyflwyno bil ar y mater hwn yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod buddiannau gweithlu ymroddedig ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael lle blaenllaw wrth inni ddiwygio’r drefn o gynnal a gwella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen o ran lleihad mewn cyllid a chynnydd mewn galw. Yn: Datganoli, Democratiaeth a Chyflenwi: Gwella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru; a Datganoli, Democratiaeth a Chyflenwi: Papur Gwyn - Diwygio Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd ar 8 Gorffennaf 2014 amlinellwyd yr heriau hyn a’n hymateb arfaethedig, gan gynnwys sefydlu Comisiwn Staff i gefnogi uno Awdurdodau Lleol.
Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn ceisio barn am rôl a chylch gwaith potensial y Comisiwn hwn a hoffwn atgoffa’r holl bartïon sydd â diddordeb i gyflwyno eu syniadau erbyn y dyddiad cau ar 1 Hydref 2014.