Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn adroddiad Rhestr o Faterion Cyn Adrodd (LOIPR) ar gyfer chweched a seithfed adroddiad cyfunol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym mis Chwefror 2021. Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hadroddiad mewn ymateb i’r rhestr o faterion ar 15 Mehefin 2022. 

Mae adroddiad LOIPR Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn darparu cwestiynau ar gyfer Gwladwriaeth y DU sy’n barti ar feysydd datganoledig a heb eu datganoli ac mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd mewn meysydd polisi yng Nghymru y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt.

Rwy’n falch o gyhoeddi’r trosolwg pwysig hwn o gynnydd yng Nghymru mewn ymateb i adroddiad LOIPR y Cenhedloedd Unedig. Rwy’n ymwybodol iawn bod yr adroddiad hwn wedi ei osod yn erbyn cefndir pandemig Covid-19, Brexit a’r argyfwng costau byw. Ni ddylid tanamcangyfrif effaith pandemig Covid-19 ar blant a phobl ifanc ac mae’r adroddiad hwn yn darparu manylion y camau gweithredu niferus a gymerwyd fel llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc.

Yn ystod y cyfnod adrodd cyflawnwyd nifer o bethau sylweddol a amlygir yn yr adroddiad hwn. Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc, y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn greiddiol iddo. Mae cyflawniadau allweddol eraill yn cynnwys Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2022, a gostwng yr oedran pleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol ac etholiadau Llywodraeth Cymru.

Rwyf am i Gymru fod yn lle gwych i dyfu fyny, byw a gweithio ynddo, lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae’r adroddiad hwn yn nodi ein cynnydd o ran ceisio cyrraedd yr amcanion hynny. Mae adroddiad Cymru y Cenhedloedd Unedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, mae dolen isod.

https://llyw.cymru/confensiwn-y-cenhedloedd-unedig-ar-hawliaur-plentyn-adroddiad-llywodraeth-cymru-2022