Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru ym mis Mai 2022 i dynnu sylw at y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i wella'r system gyfiawnder i bobl yng Nghymru. Amlinellwyd yn y rhaglen waith y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cafodd y rhain eu llunio gan ystyried argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Chomisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio cyfiawnder a thribiwnlysoedd yng Nghymru. Gosodwyd y sylfaen ar gyfer trafodaethau am ddyfodol y system gyfiawnder a thribiwnlysoedd datganoledig – trafodaethau sydd wedi parhau ers i'r rhaglen waith gael ei chyhoeddi. 

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd sy'n nodi'r gweithgarwch a'r datblygiadau sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r adroddiad. Mae'r diweddariad hwn yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi mynd rhagddo i barhau i gyflawni'r canlyniadau cyfiawnder gorau posibl yng Nghymru, er gwaetha'r cyd-destun ariannol anodd. 

Mae'r adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae gweithio mewn partneriaeth ar draws Llywodraeth Cymru, asiantaethau'r system gyfiawnder a gwasanaethau eraill wedi'i chael ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. 

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn sgil adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac mae’n rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen waith uchelgeisiol i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu'r system gyfiawnder fwyaf effeithiol yng Nghymru o dan y setliad datganoli presennol, gan hefyd ragweld y bydd newidiadau pellach tuag at setliad sy'n diwallu anghenion pobl Cymru yn well a pharatoi ar gyfer y newidiadau hynny.