Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi siarad yn aml yn y Siambr am bwysigrwydd seilwaith ynni wrth gyflawni ein hymrwymiadau sero net sy'n gyfreithiol rwymol a darparu ffyniant yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn cael ein rhwystro gan system y mae angen sicrwydd arni cyn ymrwymo cyllid ar gyfer rhwydweithiau sy'n cymryd degawd i'w cyflawni.

Roedd yr angen am sicrwydd yn gwneud synnwyr pan mai ein prif bryder oedd sicrhau bod talwyr biliau dim ond yn ariannu rhwydweithiau a oedd yn gwbl angenrheidiol. Mewn argyfwng hinsawdd, fodd bynnag, mae angen rhwydweithiau arnom sy'n galluogi pobl a busnesau i gael mynediad at yr atebion adnewyddadwy a fydd yn cadw costau i lawr ac yn sicrhau ffyniant yn y dyfodol. Er nad Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio rhwydweithiau, rwy'n benderfynol o ddarparu'r dystiolaeth er mwyn helpu system y DU i ymateb i'r hyn sydd ei angen ar Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein cam nesaf wrth ddarparu'r sicrwydd hwnnw. Mae adroddiad Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru Adroddiadau yn nodi canlyniadau defnyddio dull systemau cyfan i nodi'r gofynion ar gyfer rhwydweithiau nwy a thrydan. Rydym yn credu mai Cymru yw'r wlad gyntaf i fabwysiadu’r dull cyfannol hwn ar draws meysydd pŵer, gwres a thrafnidiaeth. 

Er bod yr adroddiad yn nodi rhai meysydd o ansicrwydd ynghylch y technolegau a'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio yn y dyfodol, mae'n amlwg iawn y bydd trydan adnewyddadwy yn darparu'r sylfaen ar gyfer datgarboneiddio'r rhan fwyaf o wasanaethau gwres a thrafnidiaeth a bydd yn chwarae rhan sylweddol mewn diwydiant a busnes. Wrth inni symud i ffwrdd o nwy naturiol, mae gan hydrogen rôl i'w chwarae hefyd, ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau eglurder ynghylch pa mor wych fydd hynny yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn egluro graddfa'r newid sydd angen digwydd. Byddwn yn symud i system ynni fwy datganoledig ac er y bydd y system gyffredinol yn dod yn fwy effeithlon, bydd gwasanaethau gwres, trafnidiaeth a diwydiant yng Nghymru yn defnyddio trydan yn hytrach na thanwyddau ffosil. Bydd hyn yn cynyddu'r galw am drydan o tua 14 awr terawat yn 2021 hyd at 10 awr terawat erbyn 2035. Bydd cynnydd mawr yn y defnydd adnewyddadwy yng Nghymru i ddiwallu'r angen hwn. Mae’r cynnydd mawr o ran y galw pan fydd ar ei anterth a chynhyrchiant adnewyddadwy yn golygu bod angen atgyfnerthu’r rhwydweithiau dosbarthu trydan a  throsglwyddo yn sylweddol. Bydd heriau gwirioneddol o ran cwrdd â'r galw pan fydd ar ei anterth, yn enwedig y galw am wres pan fydd ar ei anterth, sy'n golygu bod angen inni archwilio systemau mwy craff a mwy lleol. Mae gan hydrogen rôl bwysig i'w chwarae a bydd y dull o’i gynhyrchu yn cael effaith sylweddol ar y system ynni.

Bydd angen inni ailwefru'r wlad. Yn amlwg, bydd sawl effaith i hyn: gall hefyd olygu manteision enfawr wrth ddatgloi'r broses o ehangu datblygiad carbon isel. Rwyf wedi ymrwymo i gydbwyso'r angen hwn am grid newydd gyda phwysigrwydd ein tirweddau hardd a'n hadnoddau naturiol hanfodol, ar y tir ac ar y môr.

Rydym yn ddiolchgar i'r holl gwmnïau rhwydweithiau sydd â seilwaith yng Nghymru, sydd wedi bod yn bartneriaid inni yn y prosiect hwn, am eu mewnwelediadau, ac am eu hymrwymiad i gyflawni sero net yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn wedi datblygu ein cydberthnasau a'n cyd-ddealltwriaeth, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â'r deuddeg argymhelliad. Mae'r rhan fwyaf o'r dulliau i ddarparu'r rhwydweithiau newydd y mae gwir eu hangen arnom y tu allan i Gymru, ac rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU i ofyn iddynt weithio gyda ni i gyflawni'r argymhellion a chyflymu cynlluniau i ddatgloi buddsoddiad yng Nghymru.

Yn union fel y cytunwyd ar yr angen i wynebu’r newid yn yr hinsawdd yn uniongyrchol ac ymrwymo i dargedau heriol, bydd angen inni gytuno i gydweithio i fewnbynnu'n adeiladol i ddyluniadau rhwydweithio. Mae angen inni leihau'r hyn a fydd yn effeithiau sylweddol a sicrhau bod grid newydd yn dod â gwerth gwirioneddol i Gymru.

Mae gan yr adroddiad hwn oblygiadau pwysig i bawb yng Nghymru ac rydym am gyfleu'r canfyddiadau a'r goblygiadau'n rhagweithiol. Byddwn yn cynnal gweminar am yr adroddiad unwaith y bydd pobl wedi cael cyfle i'w ddarllen. Wrth symud ymlaen, byddaf yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r rheidrwydd am rwydweithiau newydd ac yn annog pobl i gymryd rhan a llywio penderfyniadau ar rwydweithiau newydd yn y dyfodol.