Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiwyd rhaglen gyllido Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (‘y Rhaglen’) yn 2020 mewn ymateb i bandemig Covid 19.  Mae’n darparu capasiti ychwanegol o ran staffio i bob ysgol a lleoliad sy'n darparu addysg feithrin wedi'i hariannu i sicrhau bod effeithiau’r pandemig ar ganlyniadau dysgu a lles plant a phobl ifanc yn gallu cael eu nodi'n gynnar a bod camau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith.  Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i'n disgyblion mwyaf difreintiedig a bregus, a ddioddefodd fwy o effaith niweidiol.

Ers 2020 mae £165.5 miliwn o gyllid y Rhaglen wedi'i ddosbarthu i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar - £59.1 miliwn yn 2020-21, £68.9 miliwn yn 2021-22 a £37.5 miliwn yn 2022-23.  Yn y flwyddyn ariannol hon (2023-24) bydd £37.5 miliwn yn cael ei ddosbarthu i ysgolion a lleoliadau sy'n darparu addysg feithrin wedi'i hariannu ac yn 2024-25 bydd £28.5 miliwn arall ar gael.

O fewn Cynllun Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru cafodd plant yn y blynyddoedd cynnar (hyd at 7 oed) hefyd eu nodi fel carfan o ddysgwyr oedd angen cymorth ychwanegol. Darparwyd cyllid ychwanegol o £10 miliwn trwy'r Grant Gwella Addysg yn 2021-22 i gryfhau'r modd y cyflwynir addysg gynnar, yn enwedig i sicrhau bod anghenion emosiynol, corfforol a dysgu plant yn cael eu bodloni.  Darparwyd £3 miliwn arall i leoliadau gofal plant eraill, gan gynnwys gwarchodwyr plant, nad ydynt yn darparu addysg feithrin ond y disgwylir iddynt (fel yr amlinellir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol) ddeall a defnyddio egwyddorion addysgegol addysg gynnar yn eu darpariaeth.

Ym mis Hydref 2021, penodwyd Miller Research UK i gynnal gwerthusiad manwl o’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a Rhaglen y Blynyddoedd Cynnar.  Roedd y gwerthusiad yn archwilio’r ffordd y mae ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi defnyddio’u cyllid, yr effaith y mae'r cyllid wedi'i chael, ac yn parhau i'w chael, ar blant a phobl ifanc, a'r dulliau gweithredu sy'n profi i fod y rhai mwyaf effeithiol a chynaliadwy.

Rwy'n croesawu cyhoeddiad adroddiad Miller Research UK ar 3 Mai 'Gwerthuso’r Rhaglenni Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a’r Blynyddoedd Cynnar'.  Mae canlyniadau'r adroddiad yn hynod gadarnhaol a daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y rhaglenni cyllido wedi bod yn hanfodol bwysig wrth fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig, drwy ymddiried yn ein penaethiaid ledled Cymru i wneud y penderfyniadau cyllido gorau dros eu plant a phobl ifanc.

Canfu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid mai gan Gymru oedd y lefel uchaf o gyllid i ysgolion ar gyfer adfer ar ôl Covid. - mwy na dwywaith yr hyn a wariwyd yn yr Alban a Lloegr fesul disgybl. Nawr, mae adroddiad Miller Research yn dangos bod yr arian hwn wedi’i wario’n ddoeth a bod disgwyl iddo gael effaith barhaol ar ein disgyblion a’r ffordd y mae ein hysgolion a lleoliadau’n gweithredu.

Amcangyfrifir bod 2,452 o staff ychwanegol cyfwerth ag amser llawn wedi cael eu penodi trwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.  O'r capasiti mwy hwn, mae 62.2 y cant yn staff cymorth a 29.9 y cant yn athrawon. Ar gyfartaledd, mae pob ysgol wedi ennill 1.05 aelod o staff cymorth cyfwerth ag amser llawn, a 0.5 athro cyfwerth ag amser llawn.   Mae hyn yn rhagori ar ein targed yn y Rhaglen Lywodraethu o ddarparu 1,800 ychwanegol o staff cyfwerth ag amser llawn i ysgolion drwy gyllid adfer ar ôl Covid.

Mae'r adroddiad yn ategu’r angen i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol, parhaus i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar wrth i effeithiau'r pandemig barhau, yn enwedig mewn perthynas â chanlyniadau llesiant plant a phobl ifanc.  Mae'r argymhellion eisoes wedi llywio diwygiadau i fformiwla ariannu'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 mewn perthynas ac ysgolion gwledig ac ysgolion bach i’w galluogi i fodloni anghenion penodol eu plant a'u pobl ifanc yn well a chyflawni gofynion telerau ac amodau'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn fwy effeithiol.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae cyllid wedi'i chwarae wrth fynd i'r afael â lleferydd, iaith a chyfathrebu a lles i gefnogi datblygiad yn y blynyddoedd cynnar.  Roedd hefyd yn cydnabod manteision mabwysiadu strategaethau cyfannol, sy'n canolbwyntio ar blant ar gyfer ein dysgwyr iau.

Rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad gwerthuso fydd yn cael eu datblygu yn gydweithredol gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol.  Hoffwn ddiolch i Miller Research UK a phawb a gymerodd ran yn y gwerthusiad. Bydd yr argymhellion yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r cymorth gorau i'n plant a phobl ifanc wrth iddynt barhau i ddod dros effeithiau parhaus pandemig Covid-19.