Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Chwefror 2012 comisiynwyd John F McClelland CBE i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd polisi caffael Cymru.

Rwy’n falch i groesawu casgliad yr adolygiad. Heddiw rwy’n lansio’r adroddiad llawn a’r argymhellion yn y digwyddiad ‘Ar Agor am Fusnes’ yn Llandudno.

Bydd y Datganiad ar Bolisi Caffael yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, gan gymryd y gwaith hwn yn ei flaen ar y cyd â’r grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus er mwyn sicrhau lefel yr ymrwymiad sydd ei angen oddi wrth bawb i wneud y gorau o effeithiolrwydd polisi caffael Cymru er lles yr economi a dinasyddion Cymru.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull, yna byddaf yn hapus i wneud hynny.