Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, fe wnaeth yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, a gadeiriwyd gan yr Athro Alexis Jay, gyhoeddi ei adroddiad terfynol.

Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad o bwys i gamdriniaeth hanesyddol, ac i ganfod a wnaeth cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr gymryd eu cyfrifoldeb i ddiogelu plant rhag camdriniaeth rywiol o ddifri.

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae’r ymchwiliad wedi edrych ar 13 o feysydd penodol; wedi cynnal amryw o seminarau a gwrandawiadau cyhoeddus ac wedi clywed yn uniongyrchol gan filoedd o ddioddefwyr a goroeswyr – gyda llawer o’r rhain yn siarad am eu profiadau am y tro cyntaf.

Rydym wedi cefnogi gwaith yr ymchwiliad yn gyson, gan ddarparu mwy na 30,000 o ddogfennau o’n harchifau i’r tîm a chymryd rhan mewn naw gwrandawiad, gan roi tystiolaeth am y gwaith rydym wedi’i wneud yng Nghymru i ymateb i achosion o gamdriniaeth yn erbyn plant. Cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Gwirionedd yng Nghymru.

Rwyf eisiau cofnodi yn swyddogol pa mor ddiolchgar ydwyf i’n tîm am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad. Bydd gwefan etifeddiaeth yr ymchwiliad yn cynnwys datganiad sy’n cydnabod cyfraniad Grŵp Cyfeirio Cymru a’r gwaith y mae’r ymchwiliad wedi’i wneud gyda Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i dîm yr ymchwiliad am ei ymroddiad, am feithrin cysylltiadau yng Nghymru, ac am ei ymrwymiad i’r Gymraeg.

Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn a bydd yr argymhellion nawr yn cael eu hystyried yn briodol ac yn llawn. Byddaf yn gwneud datganiad pellach am y camau nesaf pan fyddwn ni wedi cael cyfle i’w hystyried yn llawn.

Er ein bod wedi cefnogi gwaith yr ymchwiliad, a chymryd rhan ynddo, rydym hefyd wedi cryfhau ein gwaith i atal camdriniaeth yng Nghymru. Yn 2019, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Byddwn yn rhoi diweddariad ynglŷn â chynnydd fis nesaf.