Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth 2015, cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei  gyd-gomisiynu gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a minnau i edrych ar y camau y gellid eu cymryd i sicrhau dyfodol hirdymor i ensembles Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae’r sefydliadau hyn o dan fygythiad oherwydd y toriadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus a wneir gan Lywodraeth San Steffan.  

Ein nod yw diogelu’r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau bod cerddorion, artistiaid a dawnswyr ifanc talentog o bob cefndir yn cael y cyfle i hyfforddi a pherfformio ar y lefel uchaf, gyda rhai o’r talentau gorau yn eu maes.

Bellach mae’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi cwblhau ei adroddiad, ac rydym yn croesawu ei argymhellion sy’n cynnwys camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol, a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (sef corff ymbarél yr ensembles). Mae’r argymhellion yn galw am uno a symleiddio strwythur a threfn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac am drefniadau cyllido newydd ar ei gyfer. Mae’r adroddiad yn dangos yn glir y ffordd ymlaen i’r ensembles os ydynt am barhau i ffynnu.

Mae rhaglen fanwl ar gyfer gweithredu’r argymhellion bellach yn cael ei datblygu. Rydym o’r farn y byddai’r camau hyn, o gael eu gweithredu’n llawn, yn mynd cryn dipyn o’r ffordd i sicrhau dyfodol i’r ensembles hyn.  

Rydym felly’n annog yr holl randdeiliaid allweddol i gydweithio er mwyn cyflwyno’r newidiadau y mae eu hangen i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliadau eiconig hyn ar gyfer y dyfodol.”