Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Mehefin 2022, rhoddais wybod i'r Aelodau am greu panel arbenigol i edrych ar sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.  Ffurfiwyd y panel i gyflawni ymrwymiad a nodwyd yng Nghytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.

Cafodd y panel arbenigol ei gyd-gadeirio gan y darlledwr profiadol o Gymru, Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, ac roedd yn cynnwys aelodau â phrofiad helaeth o gyd-destun y cyfryngau yng Nghymru. Rwyf wedi derbyn adroddiad y Panel, sydd ar gael heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://www.llyw.cymru/dyfodol-newydd-ar-gyfer-darlledu-chyfathrebu-yng-nghymru.

Hoffwn ddiolch i'r cyd-gadeiryddion ac aelodau'r panel am eu gwaith yn creu'r adroddiad hwn. Byddwn nawr yn ystyried yr adroddiad a'i argymhellion.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad er mwyn hysbysu aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.