Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr haf hwn gwelsom gofnodion gwres ledled y byd, ar dir a môr, yn cael eu chwalu. Mae Newid Hinsawdd eisoes yn effeithio ar ein bywydau a bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod, hyd yn oed wrth inni weithio i ddatgarboneiddio ein cymdeithas a lleihau allyriadau carbon. Gallwn ddisgwyl gweld cynnydd pellach yn lefel y môr ac erydiad arfordirol, a digwyddiadau tywydd eithafol fel stormydd, llifogydd, tonnau gwres a sychder. Mae gan y newidiadau hyn oblygiadau i'n hiechyd, busnesau, seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus, cadwyni cyflenwi, natur a'r amgylchedd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau i wrthsefyll effeithiau posibl y newidiadau hyn, ochr yn ochr â lleihau allyriadau, fel rhan o ymateb ar y cyd i'r argyfwng hinsawdd.

Mae llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Mae llawer o gamau gweithredu presennol Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn ein cynllun cenedlaethol i addasu i’r hinsawdd, Ffyniant i bawb: Cymru sy'n effro i'r hinsawdd,, ac yn yr adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod lefelau'r risg yn cynyddu a bod angen gwneud mwy.

Heddiw, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar gynnydd a blaenoriaethau ar gyfer addasu i newid hinsawdd yng Nghymru yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r CCC am yr adroddiad hwn. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am yr asesiad hwn i'n helpu i ddeall yn well y meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnynt, er mwyn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ymateb i'r risgiau a'r effeithiau sy'n deillio o newid hinsawdd a dyma fydd ffocws ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod hydref 2024.

Byddwn yn defnyddio dull gweithredu wedi'i ddiweddaru, system gyfan, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer y strategaeth newydd, sy'n cyd-fynd â fframwaith monitro diwygiedig CCC ar addasu i’r hinsawdd. Bydd y strategaeth hefyd yn cymeryd safbwynt 'Tîm Cymru', gan gydnabod nodweddion a rolau unigryw gwahanol bobl a sefydliadau wrth wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Yn dilyn cyhoeddi'r strategaeth, byddwn hefyd yn gweithio ymhellach gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus i ddatblygu canllawiau, monitro ac adrodd ar wrthsefyll newid hinsawdd ledled Cymru.

Dim ond drwy gydweithio y gallwn wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn digwydd a diogelu'r dyfodol i bobl Cymru.