Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso interim ar ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. 

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yw un o bolisïau pwysig Llywodraeth Cymru, sy'n dangos ein hymrwymiad cadarn i fynd i'r afael â thlodi a llwgu ymhlith plant, lleihau anghydraddoldebau iechyd, rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, a helpu plant i fod yn barod i ddysgu yn yr ysgol. Erbyn Medi 2024, roedd awdurdodau lleol yn cyflwyno'r rhaglen yn llawn, a hyd yn hyn maent wedi darparu dros 61 miliwn o brydau bwyd i blant ledled Cymru—camp genedlaethol anhygoel.

Er mwyn sicrhau cynnig cystal â phosibl, ym mis Rhagfyr, diweddarais Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion ar gyfer ysgolion meithrin a chynradd a gynhelir – bydd y rhain yn dod i rym ym mis Hydref eleni. Cyhoeddais hefyd gynnydd yn y gyfradd a delir fesul pryd, gan ddiogelu'r ddarpariaeth yn wyneb costau cynyddol. Fodd bynnag, mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i yrru gwelliant.

Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddysgu gwersi, deall yr effeithiau sy'n dod i'r amlwg, a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella. Dyna pam ein bod wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o bolisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, a fyddai'n cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, staff arlwyo, rhieni a dysgwyr. 

Yr adroddiad interim a gyhoeddwyd heddiw yw'r cyntaf o gyfres dros gyfnod o dair blynedd. Mae'n cyflwyno canfyddiadau cynnar o flwyddyn gyntaf y gwerthusiad, gan ganolbwyntio ar y broses o weithredu'r polisi a'r canlyniadau a'r effeithiau a ddaeth i'r amlwg. 

Mae'r adroddiad yn dangos bod Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, drwy ymroddiad ysgolion, timau arlwyo ac awdurdodau lleol, yn cyflawni ei nodau craidd o gynyddu mynediad at brydau ysgol, lleihau stigma a chefnogi teuluoedd. Mae'r gwerthusiad yn tynnu sylw at y cynnydd cyson yn y niferoedd sy'n manteisio, y trefniadau caffael a'r gadwyn gyflenwi effeithiol, a'r arwyddion cadarnhaol ar gyfer iechyd, lles ac arferion bwyta plant, yn enwedig mewn cyfnod pan fo'r pwysau o ran costau byw yn parhau.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion cychwynnol er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio, cryfhau'r defnydd o gynnyrch lleol, gwella'r profiad o amser cinio, a gwella lefel y ddarpariaeth mewn ysgolion uwchradd. Mae'r argymhellion hyn yn rhychwantu ystod o bartneriaid ar draws y system, a byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i ystyried y canfyddiadau, gan helpu i lywio penderfyniadau llywodraeth i'r dyfodol. 

Mae Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn parhau i fod yn fuddsoddiad hirdymor yn iechyd plant ac mewn mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid wrth i'r gwerthusiad symud i Flynyddoedd 2 a 3, gan adeiladu ar y cynnydd cryf sydd eisoes wedi'i wneud i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod o fudd i ddysgwyr a theuluoedd ledled Cymru.