Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r adroddiad terfynol ar yr ymweliadau dirybudd â wardiau mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Roedd yr archwiliadau dirybudd yn elfen graidd o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad Ymddiried mewn Gofal, a gyhoeddwyd ym mis Mai yn dilyn ymchwiliad annibynnol i'r gofal a ddarpeir yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gan yr Athro June Andrews a Mark Butler.

Diben yr archwiliadau dirybudd oedd rhoi sicrwydd i'r cyhoedd nad oedd y diffygion y tynnwyd sylw iddynt yn adroddiad Ymddiried mewn Gofal i'w gweld mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru.  Roeddent yn canolbwyntio ar bedwar maes yng ngofal cleifion hŷn, sef:

  • Rheoli meddyginiaethau
  • Hydradu;
  • Defnyddio tawelyddion gyda'r nos;
  • Gofal ymataliaeth.

Hoffwn ddiolch i'r tri uwch gynghorydd proffesiynol – yr Athro Andrews;  Syr Ian Carruthers a'r Athro Philip Routledge - a oedd yn goruchwylio'r broses. Roedd eu hymrwymiad hwy wedi llywio a chryfhau'r broses gyfan. Ond roedd dirnadaeth yr Athro Andrews wrth helpu i gynllunio proses a oedd yn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar farn glinigol, yn hanfodol i lwyddiant y gwaith.  

Roedd y tîm adolygu, a oedd yn cynnwys uwch weithwyr iechyd proffesiynol, nyrsys, a fferyllwyr, wedi ymweld â chyfanswm o 70 o wardiau mewn 20 ysbyty cyffredinol dosbarth yn ystod cyfnod o saith wythnos rhwng 15 Mehefin a 30 Gorffennaf. Cafodd yr ymweliadau eu cynnal rhwng 6am a hanner nos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Roedd pob un ymweliad yn ddirybudd.  

Drwy arsylwi ar ymarfer nyrsio, meddygol a phroffesiynol, a thrwy siarad â'r cleifion, y staff, a pherthnasau am ansawdd y gofal ar y wardiau dan sylw ar wahanol adegau, nid oedd y timau a oedd yn cynnal yr archwiliadau dirybudd wedi canfod unrhyw faterion systemig a oedd yn destun pryder am hydradu cleifion, gofal ymataliaeth nac ychwaith am y defnydd o dawelyddion gyda'r nos. Roeddent wedi tynnu sylw at feysydd unigol mewn rhai o'r wardiau yr oedd angen eu gwella, ac yn dilyn hynny mae'r gwelliannau hynny wedi cael eu gwneud.

Er nad oedd yr ymweliadau wedi canfod unrhyw beth sylweddol a oedd yn destun pryder am y defnydd o dawelyddion, ni ddylem fod yn rhy hunanfodlon. Roeddent wedi gweld rhai enghreifftiau o arferion anghyson ar draws y wardiau, ac mae'n bwysig nad ydym yn colli'r cyfle hwn i ymdrin â hynny, a datblygu'r arferion da a welwyd.  

Roedd yr ymweliadau dirybudd wedi tynnu sylw at yr amrywiol ffyrdd yr oedd staff yn mynd ati i ymdrin ag anghenion gofal ymataliaeth cleifion. Yn y mwyafrif o achosion, roedd anghenion toiled cleifion yn cael eu diwallu, fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod hynny’n digwydd bob tro.

Un thema a gododd o’r ymweliadau oedd pa mor aml y byddai jygiau dŵr cleifion yn cael eu hail-lenwi â dŵr ffres. Mae’n amlwg bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod sefydliadau’n darparu dŵr ffres i gleifion yn rheolaidd, yn unol â’r safonau gofynnol.  

Roedd yr ymweliadau dirybudd wedi tynnu sylw at feysydd yr oedd angen eu gwella o ran rheoli meddyginiaethau ar wardiau ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Mae a wnelo’r prif faterion a welwyd â chadw meddyginiaethau’n ddiogel ac o dan glo, yn ogystal â sicrhau ymlyniad wrth safonau proffesiynol mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth i gleifion. Mae'r byrddau iechyd yn cymryd camau i ymdrin â'r meysydd hyn, gan gynnwys rhoi cloeau newydd ar gypyrddau ar gyfer meddyginiaethau, a newid y broses ar gyfer llofnodi am feddyginiaethau pan fyddant yn cael eu rhoi i gleifion.  

Mae gweithgor cenedlaethol wedi'i sefydlu i edrych ar y ffordd y mae meddyginiaethau'n cael eu gweinyddu, eu cofnodi, eu gwirio a'u storio. Bydd pedwaredd Gynhadledd flynyddol Diogelwch Meddyginiaethau y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru yn canolbwyntio heddiw ar y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.

Bydd grŵp llywio Ymddiried mewn Gofal, sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan y Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio, yn ystyried nifer o'r themâu a ddaeth i'r golwg yn sgil yr ymweliadau dirybudd, a hynny fel rhan o'i waith wrth ymdrin ag argymhellion Ymddiried mewn Gofal.  

Gwelwyd nifer o enghreifftiau o arferion da yn yr ymweliadau ag ysbytai ledled Cymru, ac roedd yr enghreifftiau hynny'n gwrthbwyso o bell ffordd unrhyw enghreifftiau prin lle y gwelwyd gwendidau yn y gofal. Ym maes tawelu cleifion, roedd yr ymweliadau wedi tynnu sylw at  y ffaith bod perthnasau’n cael eu gwahodd i’r ward i eistedd gyda’u hanwyliaid er mwyn helpu i’w llonyddu. Roeddent hefyd wedi tynnu sylw at gynlluniau arloesol, gan gynnwys menter Yfwch Ddiferyn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful; cofnodi camau i sicrhau urddas cleifion, a fferyllwyr yn llenwi’r wybodaeth gysoni ar gyfer meddyginiaethau yn gyson.

Bydd yr holl enghreifftiau o arferion da y rhoddir sylw iddynt yn yr adroddiadau unigol ar gyfer pob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cael eu rhannu â staff GIG Cymru drwy gyfeiriadur arferion da.

Mae canfyddiadau'r 70 o ymweliadau dirybudd wedi eu rhannu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn sail i'w rhaglen o arolygiadau dirybudd o urddas a gofal hanfodol.

Mae'r ymweliadau dirybudd hyn wedi cynnig ffynhonnell werthfawr o sicrwydd  am ofal cleifion hŷn, ac maent wedi magu hyder y cyhoedd yn sgil adroddiad Ymddiried mewn Gofal. Maent hefyd wedi profi i fod yn ffynhonnell werthfawr o wersi y gall y GIG ddysgu ohonynt er mwyn gwella gofal cleifion ymhellach. Yn sgil y gwaith hwn, bydd yr ymweliadau dirybudd hyn yn cael eu cynnal hefyd i edrych ar safon y gofal y mae cleifion hŷn yn ei derbyn ar wardiau iechyd meddwl mewn ysbytai.