Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llofnodwyd Cytundeb Masnach Rydd (FTA) y DU ac Awstralia gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar 16 Rhagfyr.  Y cytundeb hwn yw'r cytundeb masnach newydd llawn cyntaf y mae'r DU wedi'i negodi fel cenedl fasnachu annibynnol.

Heddiw rwy'n cyhoeddi asesiad Llywodraeth Cymru o FTA y DU ac Awstralia ar ein tudalennau gwe Polisi Masnach. Cytundeb Masnach Rydd y DU-Awstralia

Mae'r adroddiad yn rhoi sylwadau a dadansoddiad ar effeithiau posibl y cytundeb masnach ar Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y dadansoddiad a'r wybodaeth sy'n canolbwyntio ar Gymru yn yr adroddiad yn helpu Aelodau o'r Senedd, busnesau a'r cyhoedd i graffu ar y cytundeb.