Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llofnodwyd y Cytundeb Economaidd a Masnachu Cynhwysfawr rhwng y DU ac India (CETA) gan Brif Weinidog y DU ar 24 Gorffennaf 2025.  Y cytundeb hwn yw pedwerydd Cytundeb Masnach Rydd mawr y DU ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Heddiw rwy'n cyhoeddi asesiad Llywodraeth Cymru o CETA ar ein tudalennau gwe Polisi Masnach. 

Mae'r adroddiad yn darparu sylwebaeth a dadansoddiad ar effeithiau posibl CETA ar Gymru.  Rwy'n gobeithio y bydd y dadansoddiad sy'n canolbwyntio ar Gymru a'r wybodaeth yn yr adroddiad yn helpu Aelodau o'r Senedd, busnesau a'r cyhoedd i graffu ar y cytundeb.